1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud, 2 "Pan fydd gan unrhyw un chwydd, brech neu smotyn ar ei groen a allai fod yn ddolur heintus ar y croen, dylid dod ag ef at Aaron yr offeiriad, neu at un o'i feibion, yr offeiriaid. 3 Bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur ar ei groen, ac os bydd y blew yn y dolur wedi troi'n wyn, a'r dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae'n ddolur heintus; wedi iddo ei archwilio, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan. 4 Os bydd y smotyn ar ei groen yn wyn, ond heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod. 5 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os gw�l yr offeiriad fod y dolur wedi aros yr un fath a heb ledu ar y croen, bydd yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod arall. 6 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio eilwaith, ac os bydd y dolur yn gwywo a heb ledu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n l�n; nid yw ond brech. Y mae'r claf i olchi ei ddillad, ac yna bydd yn l�n. 7 Ond os bydd y frech yn lledu ar ei groen ar �l iddo'i ddangos ei hun i'r offeiriad i'w gyhoeddi'n l�n, y mae i'w ddangos ei hun i'r offeiriad eilwaith. 8 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y frech wedi lledu ar y croen, bydd yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus. 9 "Pan fydd gan unrhyw un ddolur heintus, dylid dod ag ef at yr offeiriad. 10 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd chwydd gwyn yn y croen a hwnnw wedi troi'r blew yn wyn, ac os bydd cig noeth yn y chwydd, 11 y mae'n hen ddolur yn y croen, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; ond ni fydd yn ei gadw o'r neilltu, gan ei fod eisoes yn aflan. 12 Os bydd y dolur yn torri allan dros y croen, a chyn belled ag y gw�l yr offeiriad yn gorchuddio'r claf o'i ben i'w draed, 13 bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi gorchuddio'i holl gnawd, bydd yn ei gyhoeddi'n l�n; oherwydd i'r cyfan ohono droi'n wyn, bydd yn l�n. 14 Ond pa bryd bynnag yr ymddengys cig noeth arno, bydd yn aflan. 15 Pan fydd yr offeiriad yn gweld cig noeth, bydd yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae cig noeth yn aflan, gan ei fod yn ddolur heintus. 16 Os bydd cig noeth yn newid ac yn troi'n wyn, dylai'r claf fynd at yr offeiriad. 17 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cyhoeddi'r claf yn l�n; yna bydd yn l�n. 18 "Pan fydd gan rywun gornwyd ar ei groen, a hwnnw'n gwella, 19 a chwydd gwyn neu smotyn cochwyn yn dod yn lle'r cornwyd, dylai ei ddangos ei hun i'r offeiriad. 20 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; dolur heintus wedi codi yn lle'r cornwyd ydyw. 21 Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn ynddo, a heb fod yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod. 22 Os bydd yn lledu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n heintus. 23 Ond os bydd y smotyn yn aros yr un fath a heb ledu, craith y cornwyd ydyw, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n l�n. 24 "Pan fydd gan rywun losg ar ei groen, a smotyn cochwyn neu wyn yng nghig noeth y llosg, 25 bydd yr offeiriad yn ei archwilio; ac os bydd y blew ynddo wedi troi'n wyn, a'r llosg yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae dolur heintus wedi torri allan yn y llosg. Bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus. 26 Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn yn y smotyn, a hwnnw heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod. 27 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd wedi lledu ar y croen bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus. 28 Ond os bydd y smotyn wedi aros yr un fath, a heb ledu ar y croen ac wedi gwywo, chwydd o'r llosg ydyw, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n l�n; craith y llosg ydyw. 29 "Pan fydd gan u373?r neu wraig ddolur ar y pen neu'r wyneb, bydd yr offeiriad yn ei archwilio, 30 ac os bydd yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a blew melyn main ynddo, bydd yr offeiriad yn cyhoeddi'r claf yn aflan; clafr, dolur heintus, ar y pen neu'r wyneb ydyw. 31 Os bydd yr offeiriad yn archwilio'r math hwn o ddolur ac yn gweld nad yw'n ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a heb flew du ynddo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod. 32 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur, ac os bydd y clafr heb ledu, a heb flew melyn ynddo a heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, 33 y mae'r claf i eillio, ac eithrio lle mae'r clafr, a bydd yr offeiriad yn ei gadw o'r neilltu am saith diwrnod arall. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn archwilio'r clafr eilwaith, 34 ac os bydd heb ledu ar y croen a heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n l�n. Y mae'r claf i olchi ei ddillad, ac yna bydd yn l�n. 35 Ond os bydd y clafr yn lledu ar y croen ar �l ei gyhoeddi'n l�n, 36 bydd yr offeiriad yn ei archwilio; ac os bydd y clafr wedi lledu ar y croen, nid oes rhaid i'r offeiriad chwilio am flew melyn; y mae'n aflan. 37 Os gw�l yr offeiriad fod y clafr wedi aros yr un fath, a blew du yn tyfu ynddo, y mae'r clafr wedi gwella. Y mae'r claf yn l�n, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n l�n. 38 "Pan fydd gan u373?r neu wraig smotiau gwyn ar y croen, 39 bydd yr offeiriad yn eu harchwilio, ac os bydd y smotiau yn wyn gwelw, brech wedi torri allan ar y croen ydynt; y mae'r claf yn l�n. 40 "Pan fydd dyn wedi colli gwallt ei ben ac yn foel, y mae'n l�n. 41 Os bydd wedi colli ei wallt oddi ar ei dalcen, a'i dalcen yn foel, y mae'n l�n. 42 Ond os bydd ganddo ddolur cochwyn ar ei ben moel neu ei dalcen, y mae dolur heintus yn torri allan ar ei ben neu ei dalcen. 43 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur chwyddedig ar ei ben neu ei dalcen yn gochwyn, fel y bydd dolur heintus yn ymddangos ar y croen, 44 y mae'r claf yn heintus; y mae'n aflan. Bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan oherwydd y dolur ar ei ben. 45 "Y mae'r sawl sy'n heintus o'r dolur hwn i wisgo dillad wedi eu rhwygo, gadael ei wallt yn rhydd, gorchuddio'i wefus uchaf a gweiddi, 'Af lan, aflan!' 46 Y mae'n aflan cyhyd ag y bydd y dolur arno; y mae i fyw ar ei ben ei hun, a hynny y tu allan i'r gwersyll. 47 "Os bydd haint oddi wrth ddolur mewn dilledyn, boed o wl�n neu o liain, 48 yn ystof neu'n anwe o wl�n neu o liain, neu'n lledr neu'n ddeunydd wedi ei wneud o ledr, 49 a bod yr haint yn ymddangos yn wyrdd neu'n goch yn y dilledyn neu'r lledr, mewn ystof neu anwe, neu unrhyw beth a wnaed o ledr, y mae'n heintus oddi wrth ddolur, a dylid ei ddangos i'r offeiriad. 50 Bydd yr offeiriad yn archwilio'r haint, ac yn gosod y peth y mae'r haint ynddo o'r neilltu am saith diwrnod. 51 Ar y seithfed dydd bydd yn ei archwilio, ac os bydd yr haint wedi lledu yn y dilledyn, yn yr ystof neu yn yr anwe, neu yn y lledr, i ba beth bynnag y defnyddir ef, y mae'n haint dinistriol; y mae'n aflan. 52 Dylai losgi'r dilledyn, neu'r ystof neu'r anwe o wl�n neu liain, neu'r peth lledr y mae'r haint ynddo; y mae'n haint dinistriol, a rhaid ei losgi yn y t�n. 53 "Os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a chael nad yw'r haint wedi lledu trwy'r dilledyn, yr ystof neu'r anwe, neu'r deunydd lledr, 54 bydd yn gorchymyn golchi'r dilledyn y bu'r haint ynddo, ac yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod arall. 55 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar �l ei olchi, ac os na fydd yr haint wedi newid ei liw, hyd yn oed os na fydd wedi lledu, y mae'n aflan; bydd yn ei losgi yn y t�n, boed y smotyn heintus y naill du neu'r llall. 56 Os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a chael bod yr haint wedi gwelwi ar �l ei olchi, bydd yn torri'r rhan honno allan o'r dilledyn, y lledr, yr ystof neu'r anwe. 57 Os bydd yn ailymddangos yn y dilledyn, yr ystof neu'r anwe, neu unrhyw beth o ledr, y mae'n lledu, a rhaid llosgi yn y t�n beth bynnag y mae'r haint ynddo. 58 Am y dilledyn, yr ystof neu'r anwe, neu unrhyw beth o ledr, y ciliodd yr haint ohono ar �l ei olchi, rhaid ei olchi eilwaith, a bydd yn l�n." 59 Dyma'r ddeddf ynglu375?n � haint oddi wrth ddolur mewn dilledyn o wl�n neu liain, yn yr ystof neu'r anwe, neu unrhyw beth o ledr, er mwyn penderfynu a ydynt yn l�n neu'n aflan.