Welsh

Leviticus

8

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Cymer Aaron a'i feibion, a hefyd y dillad, yr olew eneinio, bustach yr aberth dros bechod, y ddau hwrdd a'r fasgedaid o fara croyw, 3 a chasgl yr holl gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod." 4 Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac ymgasglodd y gynulleidfa wrth ddrws pabell y cyfarfod. 5 Dywedodd Moses wrth y gynulleidfa yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneud. 6 Yna gwnaeth i Aaron a'i feibion ddod ymlaen, a golchodd hwy � du373?r. 7 Rhoddodd y wisg am Aaron, clymu'r gwregys am ei ganol, ei wisgo �'r fantell a rhoi'r effod amdano; rhoes wregys cywrain yr effod amdano a'i gau. 8 Rhoddodd y ddwyfronneg amdano, a rhoi'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg. 9 Yna rhoddodd dwrban ar ben Aaron, a gosod arno'r dorch aur, y goron sanctaidd, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 10 Yna cymerodd Moses yr olew eneinio, ac eneiniodd y babell a phopeth ynddi, a thrwy hynny eu cysegru. 11 Taenellodd beth o'r olew seithwaith ar yr allor, ac eneiniodd yr allor a'i holl offer, y noe hefyd a'i gwaelod, i'w cysegru. 12 Tywalltodd beth o'r olew eneinio ar ben Aaron, ac eneiniodd ef i'w gysegru. 13 Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, rhoddodd wisgoedd amdanynt, clymu gwregysau am eu canol, a gwisgo capiau am eu pennau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 14 Yna daeth Moses � bustach yr aberth dros bechod, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach. 15 Lladdodd Moses y bustach a chymryd peth o'r gwaed a'i roi �'i fys ar y cyrn bob ochr i'r allor i'w chysegru; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor. Felly y cysegrodd hi, gan wneud cymod drosti. 16 Cymerodd Moses hefyd y braster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'r braster arnynt, a'u llosgi ar yr allor. 17 Ond llosgodd y bustach, ei groen, ei gnawd a'r gweddillion y tu allan i'r gwersyll, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 18 Yna cyflwynodd hwrdd y poethoffrwm, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben. 19 Lladdodd Moses yr hwrdd a lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor. 20 Torrodd yr hwrdd yn ddarnau a llosgi'r pen, y darnau a'r braster. 21 Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau � du373?r, a llosgodd yr hwrdd i gyd ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd, yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 22 Yna cyflwynodd yr hwrdd arall, sef hwrdd yr ordeiniad, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben. 23 Lladdodd Moses yr hwrdd a chymryd peth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde Aaron, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de. 24 Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, a rhoddodd beth o'r gwaed ar gwr isaf eu clustiau de, ar fodiau eu llaw dde ac ar fodiau eu troed de, a lluchiodd waed ar bob ochr i'r allor. 25 Cymerodd y braster, y gynffon fras, yr holl fraster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'u braster, a'r glun dde. 26 Yna o'r fasgedaid o'r bara croyw oedd gerbron yr ARGLWYDD cymerodd Moses deisen o fara croyw, ac un arall wedi ei chymysgu ag olew, ac un fisged, a'u gosod ar y braster ac ar y glun dde. 27 Rhoddodd y cyfan yn nwylo Aaron a'i feibion, a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan. 28 Wedyn cymerodd Moses hwy o'u dwylo a'u llosgi ar yr allor ar ben y poethoffrwm yn offrwm ordeiniad, yn arogl peraidd, yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD. 29 Cymerodd Moses hefyd y frest, sef ei ran ef o hwrdd yr ordeinio, a'i chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 30 Yna cymerodd Moses beth o'r olew eneinio ac o'r gwaed oddi ar yr allor, a'u taenellu dros Aaron a'i ddillad, a thros ei feibion a'u dillad hefyd; felly y cysegrodd Aaron a'i ddillad, hefyd ei feibion a'u dillad. 31 Dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion, "Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod a'i fwyta yno gyda'r bara o fasged offrymau'r ordeinio, fel y gorchmynnais, a dweud mai Aaron a'i feibion oedd i'w fwyta. 32 Ond llosgwch yn y t�n weddill y cig a'r bara. 33 Peidiwch � symud o ddrws pabell y cyfarfod am saith diwrnod, nes cwblhau dyddiau eich ordeiniad, oherwydd bydd yr ordeinio yn ymestyn dros saith diwrnod. 34 Gwnaed yr hyn a ddigwyddodd heddiw i wneud cymod drosoch, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD. 35 Yr ydych i aros wrth ddrws pabell y cyfarfod ddydd a nos am saith diwrnod, a chadw'r hyn a ofyn yr ARGLWYDD, rhag ichwi farw; oherwydd dyma a orchmynnwyd i mi." 36 Felly gwnaeth Aaron a'i feibion bopeth a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy Moses.