Welsh

Leviticus

9

1 Ar yr wythfed dydd galwodd Moses am Aaron a'i feibion a henuriaid Israel. 2 A dywedodd wrth Aaron, "Cymer fustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn ddi-nam, a chyflwyna hwy o flaen yr ARGLWYDD. 3 Yna dywed wrth bobl Israel, 'Cymerwch fwch gafr yn aberth dros bechod, a llo ac oen yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn flwydd oed ac yn ddi-nam, 4 a hefyd fustach a hwrdd yn heddoffrwm i'w haberthu o flaen yr ARGLWYDD, a bwydoffrwm wedi ei gymysgu ag olew; oherwydd heddiw bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos i chwi.'" 5 Dygasant y pethau a orchmynnodd Moses o flaen pabell y cyfarfod, a nesaodd yr holl gynulleidfa a sefyll gerbron yr ARGLWYDD. 6 Yna dywedodd Moses, "Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ichwi ei wneud er mwyn i ogoniant yr ARGLWYDD ymddangos ichwi." 7 Dywedodd Moses wrth Aaron, "Nes� at yr allor ac offryma dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun a thros y bobl; abertha offrwm y bobl a gwna gymod drostynt, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD." 8 Felly daeth Aaron at yr allor a lladd llo yn aberth dros bechod ar ei ran ei hun. 9 Yna daeth ei feibion �'r gwaed ato, a throchodd yntau ei fys yn y gwaed a'i roi ar gyrn yr allor; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor. 10 Llosgodd ar yr allor y braster, yr arennau a gorchudd yr iau o'r aberth dros bechod, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses; 11 llosgodd yn y t�n y cnawd a'r croen y tu allan i'r gwersyll. 12 Yna lladdodd Aaron y poethoffrwm; daeth ei feibion �'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor. 13 Rhoddasant iddo'r poethoffrwm fesul darn, gan gynnwys y pen, ac fe'u llosgodd ar yr allor. 14 Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau a'u llosgi ar yr allor ar ben y poethoffrwm. 15 Yna daeth ag offrwm dros y bobl. Cymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, a'i ladd a'i gyflwyno'n aberth dros bechod, fel y gwnaethai gyda'r cyntaf. 16 Yna daeth �'r poethoffrwm a'i gyflwyno, yn �l y drefn. 17 Daeth hefyd �'r bwydoffrwm a chymryd dyrnaid ohono, a'i losgi ar yr allor ynghyd �'r poethoffrymau boreol. 18 Lladdodd hefyd yr ych a'r hwrdd yn heddoffrwm dros y bobl; daeth ei feibion �'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor. 19 Ond am fraster yr ych a'r hwrdd, y gynffon fras, yr haen o fraster, yr arennau, a gorchudd yr iau, 20 gosodwyd hwy ar y frest, ac yna llosgodd Aaron y braster ar yr allor. 21 Chwifiodd y brestiau a'r glun dde yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd Moses. 22 Yna cododd Aaron ei ddwylo i gyfeiriad y bobl a'u bendithio; ac ar �l cyflwyno'r aberth dros bechod, y poethoffrwm a'r heddoffrwm, daeth i lawr o'r allor. 23 Yna aeth Moses ac Aaron i babell y cyfarfod; a phan ddaethant allan a bendithio'r bobl, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl bobl. 24 A daeth t�n allan o u373?ydd yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm a'r braster ar yr allor. Pan welodd yr holl bobl hyn, gwaeddasant mewn llawenydd a syrthio ar eu hwynebau.