1 Aeth i mewn i du375? un o arweinwyr y Phariseaid ar y Saboth am bryd o fwyd; ac yr oeddent hwy �'u llygaid arno. 2 Ac yno ger ei fron yr oedd dyn �'r dropsi arno. 3 A llefarodd Iesu wrth athrawon y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddweud, "A yw'n gyfreithlon iach�u ar y Saboth, ai nid yw?" 4 Ond ni ddywedasant hwy ddim. Yna cymerodd y claf a'i iach�u a'i anfon ymaith. 5 Ac meddai wrthynt, "Pe bai mab neu ych unrhyw un ohonoch yn syrthio i bydew, oni fyddech yn ei dynnu allan ar unwaith, hyd yn oed ar y dydd Saboth?" 6 Ni allent gynnig unrhyw ateb i hyn. 7 Yna adroddodd ddameg wrth y gwesteion, wrth iddo sylwi sut yr oeddent yn dewis y seddau anrhydedd: 8 "Pan wahoddir di gan rywun i wledd briodas, paid � chymryd y lle anrhydedd, rhag ofn ei fod wedi gwahodd rhywun amlycach na thi; 9 oherwydd os felly, daw'r sawl a'ch gwahoddodd chwi'ch dau a dweud wrthyt, 'Rho dy le i hwn', ac yna byddi dithau mewn cywilydd yn cymryd y lle isaf. 10 Yn hytrach, pan wahoddir di, dos a chymer y lle isaf, fel pan ddaw'r gwahoddwr y dywed wrthyt, 'Gyfaill, tyrd yn uwch'; yna dangosir parch iti yng ngu373?ydd dy holl gyd-westeion. 11 Oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun." 12 Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, "Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid � gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu. 13 Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion; 14 a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n �l iti; cei dy dalu'n �l yn atgyfodiad y cyfiawn." 15 Clywodd un o'i gyd-westeion hyn ac meddai wrtho, "Gwyn ei fyd pwy bynnag a gaiff gyfran yn y wledd yn nheyrnas Dduw." 16 Ond meddai ef wrtho, "Yr oedd dyn yn trefnu gwledd fawr. Gwahoddodd lawer o bobl, 17 ac anfonodd ei was ar awr y wledd i ddweud wrth y gwahoddedigion, 'Dewch, y mae popeth yn barod yn awr.' 18 Ond dechreuodd pawb ymesgusodi yn unfryd. Meddai'r cyntaf wrtho, 'Rwyf wedi prynu cae, ac y mae'n rhaid imi fynd allan i gael golwg arno; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?' 19 Meddai un arall, 'Rwyf wedi prynu pum p�r o ychen, ac rwyf ar fy ffordd i roi prawf arnynt; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?' 20 Ac meddai un arall, 'Rwyf newydd briodi, ac am hynny ni allaf ddod.' 21 Aeth y gwas at ei feistr a rhoi gwybod iddo. Yna digiodd meistr y tu375?, ac meddai wrth ei was, 'Dos allan ar unwaith i heolydd a strydoedd cefn y dref, a thyrd �'r tlodion a'r anafusion a'r deillion a'r cloffion i mewn yma.' 22 Pan ddywedodd y gwas, 'Meistr, y mae dy orchymyn wedi ei gyflawni, ond y mae lle o hyd', 23 meddai ei feistr wrtho, 'Dos allan i'r ffyrdd ac i'r cloddiau, a myn ganddynt hwy ddod i mewn, fel y llenwir fy nhu375?; 24 oherwydd rwy'n dweud wrthych na chaiff dim un o'r rheini oedd wedi eu gwahodd brofi fy ngwledd.'" 25 Yr oedd tyrfaoedd niferus yn teithio gydag ef, a throes a dweud wrthynt, 26 "Os daw rhywun ataf fi heb gas�u ei dad ei hun, a'i fam a'i wraig a'i blant a'i frodyr a'i chwiorydd, a hyd yn oed ei fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl imi. 27 Pwy bynnag nad yw'n cario ei groes ei hun ac yn dod ar fy �l i, ni all fod yn ddisgybl imi. 28 Oherwydd os bydd un ohonoch chwi yn dymuno adeiladu tu373?r, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i gyfrif y gost, er mwyn gweld a oes ganddo ddigon i gwblhau'r gwaith? 29 Onid e, fe all ddigwydd iddo osod y sylfaen ac wedyn fethu gorffen, nes bod pawb sy'n gwylio yn mynd ati i'w watwar 30 gan ddweud, 'Dyma rywun a ddechreuodd adeiladu ac a fethodd orffen.' 31 Neu os bydd brenin ar ei ffordd i ryfela yn erbyn brenin arall, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i ystyried a all ef, � deng mil o filwyr, wrthsefyll un sy'n ymosod arno ag ugain mil? 32 Os na all, bydd yn anfon llysgenhadon i geisio telerau heddwch tra bo'r llall o hyd ymhell i ffwrdd. 33 Yr un modd, gan hynny, ni all neb ohonoch nad yw'n ymwrthod �'i holl feddiannau fod yn ddisgybl i mi. 34 "Peth da yw halen. Ond os cyll yr halen ei hun ei flas, � pha beth y rhoddir blas arno? 35 Nid yw'n dda i'r pridd nac i'r domen; lluchir ef allan. Y sawl sydd � chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed."