1 Yr oedd yr holl gasglwyr trethi a'r pechaduriaid yn nes�u ato i wrando arno. 2 Ond yr oedd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn grwgnach ymhlith ei gilydd, gan ddweud, "Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid ac yn cydfwyta gyda hwy." 3 A dywedodd ef y ddameg hon wrthynt: 4 "Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar �l y ddafad golledig nes dod o hyd iddi? 5 Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen, 6 yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, 'Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.' 7 Rwy'n dweud wrthych, yr un modd bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am naw deg a naw o rai cyfiawn nad oes arnynt angen edifeirwch. 8 "Neu bwriwch fod gan wraig ddeg darn arian, a digwydd iddi golli un darn; onid yw hi'n cynnau cannwyll ac yn ysgubo'r tu375? ac yn chwilio'n ddyfal nes dod o hyd iddo? 9 Ac wedi dod o hyd iddo, y mae'n gwahodd ei chyfeillesau a'i chymdogion ynghyd, gan ddweud, 'Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'r darn arian a gollais.' 10 Yr un modd, rwy'n dweud wrthych, y mae llawenydd ymhlith angylion Duw am un pechadur sy'n edifarhau." 11 Ac meddai, "Yr oedd dyn a chanddo ddau fab. 12 Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, 'Fy nhad, dyro imi'r gyfran o'th ystad sydd i ddod imi.' A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt. 13 Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fyw'n afradlon. 14 Pan oedd wedi gwario'r cyfan, daeth newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau fod mewn eisiau. 15 Aeth ac ymlynu wrth un o ddinasyddion y wlad, ac anfonodd hwnnw ef i'w gaeau i ofalu am y moch. 16 Buasai'n falch o wneud pryd o'r plisg yr oedd y moch yn eu bwyta; ond nid oedd neb yn cynnig dim iddo. 17 Yna daeth ato'i hun a dweud, 'Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn? 18 Fe godaf, ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, "Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. 19 Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti; cymer fi fel un o'th weision cyflog."' 20 Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a'i gusanu. 21 Ac meddai ei fab wrtho, 'Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti.' 22 Ond meddai ei dad wrth ei weision, 'Brysiwch! Dewch � gwisg allan, yr orau, a'i gosod amdano. Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau am ei draed. 23 Dewch �'r llo sydd wedi ei besgi, a lladdwch ef. Gadewch inni wledda a llawenhau, 24 oherwydd yr oedd hwn, fy mab, wedi marw, a daeth yn fyw eto; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.' Yna dechreusant wledda yn llawen. 25 "Yr oedd ei fab hynaf yn y caeau. Pan nesaodd at y tu375? ar ei ffordd adref, clywodd su373?n cerddoriaeth a dawnsio. 26 Galwodd un o'r gweision ato a gofyn beth oedd ystyr hyn. 27 'Dy frawd sydd wedi dychwelyd,' meddai ef wrtho, 'ac am iddo ei gael yn �l yn holliach, y mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi.' 28 Digiodd ef, a gwrthod mynd i mewn. Daeth ei dad allan a'i gymell yn daer i'r tu375?, 29 ond atebodd ef, 'Yr holl flynyddoedd hyn b�m yn was bach iti, heb anufuddhau erioed i'th orchymyn. Ni roddaist erioed i mi gymaint � myn gafr, imi gael gwledda gyda'm cyfeillion. 30 Ond pan ddychwelodd hwn, dy fab sydd wedi difa dy eiddo gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo oedd wedi ei besgi.' 31 'Fy mhlentyn,' meddai'r tad wrtho, 'yr wyt ti bob amser gyda mi, ac y mae'r cwbl sydd gennyf yn eiddo i ti. 32 Yr oedd yn rhaid gwledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn, dy frawd, wedi marw, a daeth yn fyw; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.'"