1 Wedi iddo orffen llefaru'r holl eiriau hyn wrth y bobl, aeth i mewn i Gapernaum. 2 Yr oedd canwriad ac iddo was, gwerthfawr yn ei olwg, a oedd yn glaf ac ar fin marw. 3 Pan glywodd y canwriad am Iesu anfonodd ato henuriaid o Iddewon, i ofyn iddo ddod ac achub bywyd ei was. 4 Daethant hwy at Iesu ac ymbil yn daer arno: "Y mae'n haeddu iti wneud hyn drosto, 5 oherwydd y mae'n caru ein cenedl, ac ef a adeiladodd ein synagog i ni." 6 Pan oedd Iesu ar ei ffordd gyda hwy ac eisoes heb fod ymhell o'r tu375?, anfonodd y canwriad rai o'i gyfeillion i ddweud wrtho, "Paid � thrafferthu, syr, oherwydd nid wyf yn deilwng i ti ddod dan fy nho. 7 Am hynny bernais nad oeddwn i fy hun yn deilwng i ddod atat; ond dywed air, a chaffed fy ngwas ei iach�u. 8 Oherwydd dyn sy'n cael ei osod dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, 'Dos', ac fe �, ac wrth un arall, 'Tyrd', ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, 'Gwna hyn', ac fe'i gwna." 9 Pan glywodd Iesu hyn fe ryfeddodd at y dyn, a chan droi at y dyrfa oedd yn ei ddilyn meddai, "Rwy'n dweud wrthych, ni chefais hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr." 10 Ac wedi i'r rhai a anfonwyd ddychwelyd i'r tu375?, cawsant y gwas yn holliach. 11 Yn fuan wedyn aeth Iesu i dref a elwir Nain. Gydag ef ar y daith yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr. 12 Pan gyrhaeddodd yn agos at borth y dref, dyma gynhebrwng yn dod allan; unig fab ei fam oedd y marw, a hithau'n wraig weddw. Yr oedd tyrfa niferus o'r dref gyda hi. 13 Pan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi a dweud, "Paid ag wylo." 14 Yna aeth ymlaen a chyffwrdd �'r elor. Safodd y cludwyr, ac meddai ef, "Fy machgen, rwy'n dweud wrthyt, cod." 15 Cododd y marw ar ei eistedd a dechrau siarad, a rhoes Iesu ef i'w fam. 16 Cydiodd ofn ym mhawb a dech-reusant ogoneddu Duw, gan ddweud, "Y mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith", ac, "Y mae Duw wedi ymweld �'i bobl." 17 Ac aeth yr hanes hwn amdano drwy Jwdea gyfan a'r holl gymdogaeth. 18 Rhoes disgyblion Ioan adroddiad iddo ynglu375?n � hyn oll. 19 Galwodd yntau ddau o'i ddisgyblion ato a'u hanfon at yr Arglwydd, gan ofyn, "Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?" 20 Daeth y ddau ato a dweud, "Anfonodd Ioan Fedyddiwr ni atat, gan ofyn, 'Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?'" 21 Y pryd hwnnw iachaodd ef lawer o afael afiechydon a phl�u ac ysbrydion drwg, a rhoes eu golwg i lawer o ddeillion. 22 Ac atebodd ef hwy, "Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn �l, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da. 23 Gwyn ei fyd y sawl na ddaw cwymp iddo o'm hachos i." 24 Wedi i neges-yddion Ioan ymadael, dechreuodd Iesu s�n am Ioan wrth y tyrfaoedd. "Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt? 25 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai rhywun wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Ym mhlasau brenhinoedd y mae gweld dynion moethus mewn gwisgoedd ysblennydd. 26 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd. 27 Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano: 'Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen, i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.' 28 Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef." 29 (A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan; 30 ond troi heibio fwriad Duw ar eu cyfer a wnaeth y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith, oherwydd yr oeddent hwy wedi gwrthod cael eu bedyddio ganddo.) 31 "� phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg? 32 Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn: 'Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.' 33 Oherwydd y mae Ioan Fedyddiwr wedi dod, un nad yw'n bwyta bara nac yn yfed gwin, ac yr ydych yn dweud, 'Y mae cythraul ynddo.' 34 Y mae Mab y Dyn wedi dod, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac yr ydych yn dweud, 'Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.' 35 Ac eto profir gan bawb o'i phlant fod doethineb Duw yn gywir." 36 Gwahoddodd un o'r Phariseaid Iesu i bryd o fwyd gydag ef. Aeth ef i du375?'r Pharisead a chymryd ei le wrth y bwrdd. 37 A dyma wraig o'r dref oedd yn bechadures yn dod i wybod ei fod wrth bryd bwyd yn nhu375?'r Pharisead. Daeth � ffiol alabastr o ennaint, 38 a sefyll y tu �l iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed �'i dagrau a'u sychu � gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro �'r ennaint. 39 Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, "Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi." 40 Atebodd Iesu ef, "Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt." Meddai yntau, "Dywed, Athro." 41 "Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr," meddai Iesu. "Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall. 42 Gan nad oeddent yn gallu talu'n �l, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. Prun ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?" 43 Atebodd Simon, "Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo." "Bernaist yn gywir," meddai ef wrtho. 44 A chan droi at y wraig, meddai wrth Simon, "A weli di'r wraig hon? Deuthum i mewn i'th du375?, ac ni roddaist ddu373?r imi at fy nhraed; ond hon, gwlychodd hi fy nhraed �'i dagrau a'u sychu �'i gwallt. 45 Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio � chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn. 46 Nid iraist fy mhen ag olew; ond irodd hon fy nhraed ag ennaint. 47 Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad." 48 Ac wrth y wraig meddai, "Y mae dy bechodau wedi eu maddau." 49 Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, "Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?" 50 Ac meddai ef wrth y wraig, "Y mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn tangnefedd."