Welsh

Luke

8

1 Wedi hynny bu ef yn teithio trwy dref a phentref gan bregethu a chyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw. Yr oedd y Deuddeg gydag ef, 2 ynghyd � rhai gwragedd oedd wedi eu hiach�u oddi wrth ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair a elwid Magdalen, yr un yr oedd saith gythraul wedi dod allan ohoni; 3 Joanna gwraig Chwsa, goruchwyliwr Herod; Swsanna, a llawer eraill; yr oedd y rhain yn gweini arnynt o'u hadnoddau eu hunain. 4 Yr oedd tyrfa fawr yn ymgynnull, a phobl o bob tref yn dod ato. Dywedodd ef ar ddameg: 5 "Aeth heuwr allan i hau ei had. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr; sathrwyd arno, a bwytaodd adar yr awyr ef. 6 Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth. 7 Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu. 8 A syrthiodd peth arall ar dir da; tyfodd, a chnydiodd hyd ganwaith cymaint." Wrth ddweud hyn fe waeddodd, "Y sawl sydd � chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed." 9 Gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd ystyr y ddameg hon. 10 Meddai ef, "I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas Dduw wedi ei roi, ond i bawb arall y maent ar ddamhegion, fel 'er edrych, na welant, ac er clywed, na ddeallant'. 11 "Dyma ystyr y ddameg. Yr had yw gair Duw. 12 Y rhai ar hyd y llwybr yw'r sawl sy'n clywed, ac yna daw'r diafol a chipio'r gair o'u calonnau, rhag iddynt gredu a chael eu hachub. 13 Y rhai ar y graig yw'r sawl sydd, pan glywant, yn croesawu'r gair yn llawen. Ond gan y rhain nid oes gwreiddyn; dros dro y credant, ac mewn awr o brawf fe wrthgiliant. 14 Yr hyn a syrthiodd ymhlith y drain, dyma'r sawl sy'n clywed, ond wrth iddynt fynd ar eu hynt c�nt eu tagu gan ofalon a golud a phleserau bywyd, ac ni ddygant eu ffrwyth i aeddfedrwydd. 15 Ond hwnnw yn y tir da, dyna'r sawl sy'n clywed y gair � chalon dda rinweddol, yn dal eu gafael ynddo ac yn dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad. 16 "Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei chuddio � llestr neu'n ei dodi dan y gwely. Nage, ar ganhwyllbren y dodir hi, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni. 17 Oherwydd nid oes dim yn guddiedig na ddaw'n amlwg, na dim dan g�l na cheir ei wybod ac na ddaw i'r amlwg. 18 Ystyriwch gan hynny sut yr ydych yn gwrando, oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny y mae ef yn tybio ei fod ganddo." 19 Daeth ei fam a'i frodyr i edrych amdano, ond ni allent gyrraedd ato o achos y dyrfa. 20 Hysbyswyd ef, "Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan ac yn dymuno dy weld." 21 Atebodd yntau hwy, "Fy mam a'm brodyr i yw'r rhain sy'n gwrando ar air Duw ac yn ei weithredu." 22 Un diwrnod, aeth ef i mewn i gwch, a'i ddisgyblion hefyd, ac meddai wrthynt, "Awn drosodd i ochr draw'r llyn," a hwyliasant ymaith. 23 Tra oeddent ar y du373?r, aeth Iesu i gysgu. A disgynnodd tymestl o wynt ar y llyn; yr oedd y cwch yn llenwi, a hwythau mewn perygl. 24 Aethant ato a'i ddeffro, a dweud, "Meistr, meistr, mae hi ar ben arnom!" Deffr�dd ef, a cheryddodd y gwynt a'r dyfroedd tymhestlog; darfu'r dymestl a bu tawelwch. 25 Yna meddai ef wrthynt, "Ble mae eich ffydd?" Daeth ofn a syndod arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy ynteu yw hwn? Y mae'n gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a'r dyfroedd, a hwythau'n ufuddhau iddo." 26 Daethant i'r lan i wlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn � Galilea. 27 Pan laniodd ef, daeth i'w gyfarfod ddyn o'r dref � chythreuliaid ynddo. Ers amser maith nid oedd wedi gwisgo dilledyn, ac nid mewn tu375? yr oedd yn byw ond ymhlith y beddau. 28 Pan welodd ef Iesu, rhoes floedd a syrthio o'i flaen, gan weiddi � llais uchel, "Beth sydd a fynni di � mi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn erfyn arnat, paid �'m poenydio." 29 Oherwydd yr oedd ef wedi gorchymyn i'r ysbryd aflan fynd allan o'r dyn. Aml i dro yr oedd yr ysbryd wedi cydio ynddo, ac er ei rwymo � chadwynau a llyffetheiriau a'i warchod, byddai'n dryllio'r rhwymau, a'r cythraul yn ei yrru i'r unigeddau. 30 Yna gofynnodd Iesu iddo, "Beth yw dy enw?" "Lleng," meddai yntau, oherwydd yr oedd llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo. 31 Dechreusant ymbil ar Iesu i beidio � gorchymyn iddynt fynd ymaith i'r dyfnder. 32 Yr oedd yno genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd. Ymbiliodd y cythreuliaid arno i ganiat�u iddynt fynd i mewn i'r moch; ac fe ganiataodd iddynt. 33 Aeth y cythreuliaid allan o'r dyn ac i mewn i'r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r llyn a boddi. 34 Pan welodd bugeiliaid y moch beth oedd wedi digwydd fe ffoesant, gan adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad. 35 Daeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu, a chael y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd wrth draed Iesu, �'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn. 36 Adroddwyd yr hanes wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld sut yr iachawyd y dyn oedd wedi bod ym meddiant cythreuliaid. 37 Yna gofynnodd holl boblogaeth gwlad y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr wedi cydio ynddynt; ac aeth ef i mewn i'r cwch i ddychwelyd. 38 Yr oedd y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael bod gydag ef; ond anfonodd Iesu ef yn ei �l, gan ddweud, 39 "Dychwel adref, ac adrodd gymaint y mae Duw wedi ei wneud drosot." Ac aeth ef ymaith trwy'r holl dref gan gyhoeddi gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto. 40 Pan ddychwelodd Iesu croesawyd ef gan y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn disgwyl amdano. 41 A dyma ddyn o'r enw Jairus yn dod, ac yr oedd ef yn arweinydd yn y synagog; syrthiodd hwn wrth draed Iesu ac ymbil arno i ddod i'w gartref, 42 am fod ganddo unig ferch, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a'i bod hi'n marw. Tra oedd ef ar ei ffordd yr oedd y tyrfaoedd yn gwasgu arno. 43 Yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Er iddi wario ar feddygon y cwbl oedd ganddi i fyw arno, nid oedd wedi llwyddo i gael gwellhad gan neb. 44 Daeth hon ato o'r tu �l a chyffwrdd ag ymyl ei fantell; ar unwaith peidiodd llif ei gwaed hi. 45 Ac meddai Iesu, "Pwy gyffyrddodd � mi?" Gwadodd pawb, ac meddai Pedr, "Meistr, y tyrfaoedd sy'n pwyso ac yn gwasgu arnat." 46 Ond meddai Iesu, "Fe gyffyrddodd rhywun � mi, oherwydd fe synhwyrais i fod nerth wedi mynd allan ohonof." 47 Pan ganfu'r wraig nad oedd hi ddim wedi osgoi sylw, daeth ymlaen dan grynu; syrthiodd wrth ei draed a mynegi gerbron yr holl bobl pam yr oedd hi wedi cyffwrdd ag ef, a sut yr oedd wedi gwella ar unwaith. 48 Ac meddai ef wrthi, "Fy merch, dy ffydd sydd wedi dy iach�u di; dos mewn tangnefedd." 49 Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywun o du375? arweinydd y synagog a dweud, "Y mae dy ferch wedi marw; paid � phoeni'r Athro bellach." 50 Ond clywodd Iesu, ac meddai wrtho, "Paid ag ofni; dim ond credu, ac fe'i hachubir." 51 Pan gyrhaeddodd y tu375?, ni adawodd i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago, ynghyd � thad y ferch a'i mam. 52 Yr oedd pawb yn wylo ac yn galaru drosti. Ond meddai ef, "Peidiwch ag wylo; nid yw hi wedi marw, cysgu y mae." 53 Dechreusant chwerthin am ei ben, am eu bod yn sicr ei bod wedi marw. 54 Gafaelodd ef yn ei llaw a dweud yn uchel, "Fy ngeneth, cod." 55 Yna dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith. Gorchmynnodd ef roi iddi rywbeth i'w fwyta. 56 Syfrdanwyd ei rhieni, ond rhybuddiodd ef hwy i beidio � s�n gair wrth neb am yr hyn oedd wedi digwydd.