Welsh

Numbers

1

1 Ar y dydd cyntaf o'r ail fis yn yr ail flwyddyn wedi i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mhabell y cyfarfod yn anialwch Sinai, a dweud, 2 "Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn �l eu tylwythau a'u teuluoedd, gan restru enw pob gwryw fesul un. 3 Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 4 Gyda chwi bydd un dyn o bob llwyth, sef y penteulu. 5 Dyma enwau'r dynion a fydd gyda chwi. O Reuben: Elisur fab Sedeur; 6 o Simeon: Selumiel fab Surisadai; 7 o Jwda: Nahson fab Amminadab; 8 o Issachar: Nethanel fab Suar; 9 o Sabulon: Eliab fab Helon. 10 O feibion Joseff: o Effraim, Elisama fab Ammihud, ac o Manasse, Gamaliel fab Pedasur; 11 o Benjamin: Abidan fab Gideoni; 12 o Dan: Ahieser fab Ammisadai; 13 o Aser: Pagiel fab Ocran; 14 o Gad: Eliasaff fab Reuel; 15 o Nafftali: Ahira fab Enan." 16 Dyma'r rhai a ddewiswyd o'r cynulliad yn arweinwyr llwythau eu hynafiaid ac yn benaethiaid ar dylwythau Israel. 17 Cymerodd Moses ac Aaron y dynion hyn y rhoddwyd eu henwau, 18 ac ar y dydd cyntaf o'r ail fis casglwyd ynghyd yr holl gynulliad. Rhestrwyd y bobl yn �l eu tylwythau a'u teuluoedd, a rhifwyd fesul un bawb oedd yn ugain oed a throsodd. 19 Felly, cyfrifodd Moses hwy yn anialwch Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 20 O dylwyth Reuben, cyntafanedig Israel, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 21 Nifer llwyth Reuben oedd pedwar deg chwech o filoedd a phum cant. 22 O dylwyth Simeon, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 23 Nifer llwyth Simeon oedd pum deg naw o filoedd a thri chant. 24 O dylwyth Gad, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 25 Nifer llwyth Gad oedd pedwar deg pump o filoedd chwe chant a phum deg. 26 O dylwyth Jwda, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 27 Nifer llwyth Jwda oedd saith deg pedair o filoedd a chwe chant. 28 O dylwyth Issachar, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 29 Nifer llwyth Issachar oedd pum deg pedair o filoedd a phedwar cant. 30 O dylwyth Sabulon, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 31 Nifer llwyth Sabulon oedd pum deg saith o filoedd a phedwar cant. 32 O dylwyth Joseff, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 33 Nifer llwyth Effraim oedd pedwar deg o filoedd a phum cant. 34 O dylwyth Manasse, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 35 Nifer llwyth Manasse oedd tri deg dwy o filoedd a dau gant. 36 O dylwyth Benjamin, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 37 Nifer llwyth Benjamin oedd tri deg pump o filoedd a phedwar cant. 38 O dylwyth Dan, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 39 Nifer llwyth Dan oedd chwe deg dwy o filoedd a saith gant. 40 O dylwyth Aser, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 41 Nifer llwyth Aser oedd pedwar deg un o filoedd a phum cant. 42 O dylwyth Nafftali, rhestrwyd fesul un, yn �l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 43 Nifer llwyth Nafftali oedd pum deg tair o filoedd a phedwar cant. 44 Dyma'r rhai a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron gyda chymorth arweinwyr Israel, deuddeg ohonynt, pob un yn cynrychioli tu375? ei hynafiaid. 45 Gwnaed cyfrif o bobl Israel, yn �l eu teuluoedd, gan gynnwys pawb oedd yn ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel; 46 y cyfanswm oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg. 47 Ond ni rifwyd y Lefiaid yn �l llwythau eu hynafiaid ymysg pobl Israel, 48 oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, 49 "Paid � chyfrif llwyth Lefi, na'u cynnwys mewn cyfrifiad o bobl Israel; 50 ond penoda'r Lefiaid i ofalu am babell y dystiolaeth, ei holl ddodrefn, a phopeth a berthyn iddi. Hwy sydd i gludo'r babell a'i holl ddodrefn, a hwy sydd i ofalu amdani a gwersyllu o'i hamgylch. 51 Pan fydd yn amser symud y babell, y Lefiaid fydd yn ei thynnu i lawr; a phan fydd yn amser i aros, y Lefiaid fydd yn ei chodi. Rhodder i farwolaeth unrhyw un arall a ddaw ar ei chyfyl. 52 Bydd pobl Israel yn gwersyllu yn �l eu minteioedd, pob un yn ei wersyll ei hun a than ei faner ei hun. 53 Ond bydd y Lefiaid yn gwersyllu o amgylch pabell y dystiolaeth, rhag i ddigofaint ddod yn erbyn cynulliad pobl Israel; bydd pabell y dystiolaeth dan ofal y Lefiaid." 54 Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.