1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, 2 "Bydd pobl Israel yn gwersyllu o amgylch pabell y cyfarfod, ychydig oddi wrthi, pob un dan ei faner ei hun a than arwydd tu375? ei dad. 3 Ar ochr y dwyrain, tua chodiad haul, bydd minteioedd gwersyll Jwda yn gwersyllu o dan eu baner. 4 Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant. 5 Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar, 6 a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant. 7 Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon, 8 a nifer ei lu yn bum deg saith o filoedd a phedwar cant. 9 Cyfanswm gwersyll Jwda, yn �l eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith. 10 "Ar ochr y de bydd minteioedd gwersyll Reuben o dan eu baner. Elisur fab Sedeur fydd arweinydd pobl Reuben, 11 a nifer ei lu yn bedwar deg chwech o filoedd a phum cant. 12 Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon, 13 a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant. 14 Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad, 15 a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg. 16 Cyfanswm gwersyll Reuben, yn �l eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan. 17 "Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun. 18 "Ar ochr y gorllewin bydd minteioedd gwersyll Effraim o dan eu baner. Elisama fab Ammihud fydd arweinydd pobl Effraim, 19 a nifer ei lu yn bedwar deg o filoedd a phum cant. 20 Yn nesaf ato bydd llwyth Manasse. Gamaliel fab Pedasur fydd arweinydd pobl Manasse, 21 a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant. 22 Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin, 23 a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant. 24 Cyfanswm gwersyll Effraim, yn �l eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan. 25 "Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan, 26 a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant. 27 Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser, 28 a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant. 29 Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali, 30 a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant. 31 Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun." 32 Dyma bobl Israel a gyfrifwyd yn �l eu teuluoedd. Cyfanswm y rhai a rifwyd yn eu gwersylloedd ac yn �l eu minteioedd oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg. 33 Ond, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, ni rifwyd y Lefiaid ymysg pobl Israel. 34 Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, gan wersyllu dan eu baneri a chychwyn allan, fesul tylwyth, yn �l eu teuluoedd.