1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, 2 "Dyma'r ddeddf a'r gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Dywed wrth bobl Israel am ddod � buwch atat, un goch heb unrhyw ddiffyg na nam arni, ac na fu erioed dan iau. 3 Rhowch hi i Eleasar yr offeiriad, a deuer � hi y tu allan i'r gwersyll a'i lladd ger ei fron. 4 Yna fe gymer Eleasar yr offeiriad beth o'r gwaed a'i daenellu �'i fys saith gwaith ar du blaen pabell y cyfarfod. 5 Llosger y fuwch yn ei u373?ydd, ynghyd �'i chroen, ei chig, ei gwaed a'i gweddillion. 6 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd coed cedrwydd, isop ac edau ysgarlad, ac yn eu taflu i ganol y t�n sy'n llosgi'r fuwch. 7 Wedyn bydd yn golchi ei ddillad a'i gorff � du373?r, ac yn dod i mewn i'r gwersyll, ond ni fydd yn l�n tan yr hwyr. 8 Y mae'r dyn a losgodd y fuwch hefyd i olchi ei ddillad a'i gorff � du373?r, ac ni fydd yntau ychwaith yn l�n tan yr hwyr. 9 Yna bydd dyn sy'n l�n yn casglu lludw'r fuwch ac yn ei roi mewn lle gl�n y tu allan i'r gwersyll, ac fe'i cedwir i gynulliad pobl Israel ei ddefnyddio ar gyfer du373?r puredigaeth; bydd y fuwch, felly, yn aberth dros bechod. 10 Y mae'r dyn sy'n casglu lludw'r fuwch hefyd i olchi ei ddillad, ac ni fydd yn l�n tan yr hwyr. Bydd hyn yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel a'r dieithriaid sy'n byw yn eu plith. 11 "'Bydd y sawl sy'n cyffwrdd � chorff marw unrhyw un yn aflan am saith diwrnod; 12 y mae i'w olchi ei hun � du373?r ar y trydydd a'r seithfed dydd, a bydd yn l�n, ond os na fydd yn ei olchi ei hun ar y trydydd a'r seithfed dydd, ni fydd yn l�n. 13 Bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd � chorff marw unrhyw un, a heb ei olchi ei hun, yn halogi tabernacl yr ARGLWYDD, a bydd yn cael ei ddiarddel o Israel; bydd yn aflan, ac yn parhau'n aflan, am nad yw wedi ei drochi mewn du373?r puredigaeth. 14 "'Dyma'r ddeddf pan fydd rhywun yn marw mewn pabell: bydd unrhyw un a ddaw i mewn i'r babell, ac unrhyw un a oedd ynddi'n barod, yn aflan am saith diwrnod. 15 Bydd pob llestr agored, heb gaead wedi ei gau arno, yn aflan. 16 Bydd pwy bynnag sydd allan yn y maes ac yn cyffwrdd ag un a fu farw trwy'r cleddyf, neu � chorff marw unrhyw un, neu asgwrn ohono, neu ei fedd, yn aflan am saith diwrnod. 17 Ar gyfer y rhai aflan fe gymerir peth o ludw'r aberth dros bechod, a thywallt du373?r gl�n drosto mewn llestr; 18 yna bydd rhywun sy'n l�n yn cymryd isop, yn ei drochi mewn du373?r, ac yn ei daenellu ar y babell a'i holl ddodrefn, ac ar bawb oedd yno, ac ar y sawl a gyffyrddodd ag asgwrn neu fedd un a gafodd ei ladd neu a fu farw; 19 bydd y sawl sy'n l�n yn ei daenellu dros yr aflan ar y trydydd a'r seithfed dydd, ac erbyn y seithfed dydd bydd wedi ei lanhau; yna bydd yn golchi ei ddillad ei hun a'i gorff � du373?r, ac erbyn yr hwyr bydd yntau'n l�n. 20 "'Os yw rhywun yn aflan ac yn gwrthod ei olchi ei hun, fe'i torrir ymaith o blith y cynulliad am iddo halogi cysegr yr ARGLWYDD; bydd yn aflan am na throchwyd ef mewn du373?r puredigaeth. 21 Bydd hyn yn ddeddf iddynt am byth. Y mae'r sawl sy'n taenellu'r du373?r puredigaeth i olchi ei ddillad; bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd �'r du373?r yn aflan tan yr hwyr. 22 Bydd beth bynnag y bydd rhywun aflan yn ei gyffwrdd yn troi'n aflan, ac os bydd rhywun yn cyffwrdd �'r peth aflan hwnnw, bydd yntau'n aflan tan yr hwyr.'"