1 Yn y mis cyntaf daeth holl gynulleidfa pobl Israel i anialwch Sin, ac arhosodd y bobl yn Cades; yno y bu Miriam farw, ac yno y claddwyd hi. 2 Nid oedd du373?r ar gyfer y gynulleidfa, ac felly ymgynullasant yn erbyn Moses ac Aaron. 3 Dechreuasant ymryson � Moses, a dweud, "O na fyddem ninnau wedi marw pan fu farw ein cymrodyr gerbron yr ARGLWYDD! 4 Pam y daethost � chynulleidfa'r ARGLWYDD i'r anialwch hwn i farw gyda'n hanifeiliaid? 5 Pam y daethost � ni allan o'r Aifft a'n harwain i'r lle drwg hwn? Nid oes yma rawn, na ffigys, na gwinwydd, na phomgranadau, na hyd yn oed ddu373?r i'w yfed." 6 Yna aeth Moses ac Aaron o u373?ydd y gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod, ac ymgrymu. Ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt, 7 a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 8 "Cymer y wialen, a chynnull y gynulleidfa gyda'th frawd Aaron, ac yn eu gu373?ydd dywed wrth y graig am ddiferu du373?r; yna byddi'n tynnu du373?r o'r graig ar eu cyfer ac yn ei roi i'r gynulleidfa a'i hanifeiliaid i'w yfed." 9 Felly cymerodd Moses y wialen oedd o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnwyd iddo. 10 Cynullodd Moses ac Aaron y gynulleidfa o flaen y graig, a dweud wrthynt, "Gwrandewch, yn awr, chwi wrthryfelwyr; a ydych am inni dynnu du373?r i chwi allan o'r graig hon?" 11 Yna cododd Moses ei law, ac wedi iddo daro'r graig ddwywaith �'i wialen, daeth llawer o ddu373?r allan, a chafodd y gynulleidfa a'u hanifeiliaid yfed ohono. 12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, "Am i chwi beidio � chredu ynof, na'm sancteiddio yng ngu373?ydd pobl Israel, ni fyddwch yn dod �'r gynulleidfa hon i mewn i'r wlad a roddais iddynt." 13 Dyma ddyfroedd Meriba, lle y bu'r Israeliaid yn ymryson �'r ARGLWYDD, a lle y datguddiodd ei hun yn sanctaidd iddynt. 14 Anfonodd Moses genhadon o Cades at frenin Edom i ddweud, "Dyma a ddywed dy frawd Israel: 'Fe wyddost am yr holl helbulon a ddaeth i'n rhan, 15 sut yr aeth ein hynafiaid i lawr i'r Aifft, sut y buom yn byw yno am amser maith, a sut y cawsom ni a'n hynafiaid ein cam-drin gan yr Eifftiaid; 16 ond pan waeddasom ar yr ARGLWYDD, fe glywodd ein cri, ac anfonodd angel i'n harwain allan o'r Aifft. 17 A dyma ni yn Cades, dinas sydd yn ymyl dy diriogaeth di. Yn awr, gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am fynd trwy dy gaeau a'th winllannoedd, nac am yfed du373?r o'r ffynhonnau, ond fe gadwn at briffordd y brenin, heb droi i'r dde na'r chwith, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.'" 18 Ond dywedodd Edom wrtho, "Ni chei fynd trwodd, neu fe ddof yn dy erbyn � chleddyf." 19 Dywedodd pobl Israel wrtho, "Nid ydym am fynd ond ar hyd y briffordd, ac os byddwn ni a'n hanifeiliaid yn yfed dy ddu373?r, fe dalwn amdano; ni wnawn ddim ond cerdded trwodd." 20 Ond dywedodd ef, "Ni chei di ddim mynd." Daeth Edom allan yn eu herbyn gyda byddin fawr o ddynion, 21 a gwrthododd adael i Israel fynd trwy ei dir; felly fe drodd Israel ymaith oddi wrtho. 22 Aeth holl gynulleidfa pobl Israel o Cades, a chyrraedd Mynydd Hor. 23 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron ym Mynydd Hor, a oedd ar derfyn gwlad Edom, 24 "Cesglir Aaron at ei bobl; ni chaiff fynd i mewn i'r wlad a roddais i bobl Israel, am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn wrth ddyfroedd Meriba. 25 Felly tyrd ag Aaron a'i fab Eleasar i fyny Mynydd Hor, 26 a chymer y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar; yna bydd Aaron yn cael ei gasglu at ei bobl, ac yn marw yno." 27 Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac aethant i fyny Mynydd Hor, a'r holl gynulleidfa yn eu gwylio. 28 Cymerodd Moses y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar, a bu Aaron farw yno ar ben y mynydd. 29 Yna daeth Moses ac Eleasar i lawr o ben y mynydd, a phan sylweddolodd yr holl gynulleidfa fod Aaron wedi marw, wylodd holl du375? Israel amdano am ddeg diwrnod ar hugain.