Welsh

Numbers

33

1 Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron. 2 Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai. 3 Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar �l y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngu373?ydd yr holl Eifftiaid, 4 tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd. 5 Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth. 6 Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch. 7 Aethant o Etham a throi'n �l i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol. 8 Aethant o Pihahiroth a mynd trwy ganol y m�r i'r anialwch, a buont yn cerdded am dridiau yn anialwch Etham cyn gwersyllu yn Mara. 9 Aethant o Mara a chyrraedd Elim, lle yr oedd deuddeg o ffynhonnau du373?r a saith deg o balmwydd, a buont yn gwersyllu yno. 10 Aethant o Elim a gwersyllu wrth y M�r Coch. 11 Aethant o'r M�r Coch a gwersyllu yn anialwch Sin. 12 Aethant o anialwch Sin a gwersyllu yn Doffca. 13 Aethant o Doffca a gwersyllu yn Alus. 14 Aethant o Alus a gwersyllu yn Reffidim, lle nad oedd du373?r i'r bobl i'w yfed. 15 Aethant o Reffidim a gwersyllu yn anialwch Sinai. 16 Aethant o anialwch Sinai a gwersyllu yn Cibroth-hattaafa. 17 Aethant o Cibroth-hattaafa a gwersyllu yn Haseroth. 18 Aethant o Haseroth a gwersyllu yn Rithma. 19 Aethant o Rithma a gwersyllu yn Rimmon-pares. 20 Aethant o Rimmon-pares a gwersyllu yn Libna. 21 Aethant o Libna a gwersyllu ym Mynydd Rissa. 22 Aethant o Rissa a gwersyllu yn Cehelatha. 23 Aethant o Cehelatha a gwersyllu ym Mynydd Saffer. 24 Aethant o Fynydd Saffer a gwersyllu yn Harada. 25 Aethant o Harada a gwersyllu yn Maceloth. 26 Aethant o Maceloth a gwersyllu yn Tahath. 27 Aethant o Tahath a gwersyllu yn Tara. 28 Aethant o Tara a gwersyllu yn Mithca. 29 Aethant o Mithca a gwersyllu yn Hasmona. 30 Aethant o Hasmona a gwersyllu yn Moseroth. 31 Aethant o Moseroth a gwersyllu yn Bene-jaacan. 32 Aethant o Bene-jaacan a gwersyllu yn Hor-haggidgad. 33 Aethant o Hor-haggidgad a gwersyllu yn Jotbatha. 34 Aethant o Jotbatha a gwersyllu yn Abrona. 35 Aethant o Abrona a gwersyllu yn Esion-geber. 36 Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades. 37 Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom. 38 Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar �l i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft. 39 Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor. 40 Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod. 41 Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona. 42 Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon. 43 Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth. 44 Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab. 45 Aethant o Ijim a gwersyllu yn Dibon-gad. 46 Aethant o Dibon-gad a gwersyllu yn Almon-diblathaim. 47 Aethant o Almon-diblathaim a gwersyllu ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo. 48 Aethant o fynyddoedd Abarim a gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen; 49 yr oedd eu gwersyll ar lan yr Iorddonen yn ymestyn o Beth-jesimoth hyd Abel-sittim yng ngwastadedd Moab. 50 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen, a dweud, 51 "Dywed wrth bobl Israel, 'Wedi i chwi groesi'r Iorddonen i wlad Canaan, 52 yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd; 53 yna yr ydych i feddiannu'r wlad a thrigo yno, oherwydd yr wyf wedi rhoi'r wlad i chwi i'w meddiannu. 54 Yr ydych i rannu'r wlad yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd trwy goelbren: i'r llwythau mawr rhowch etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain etifeddiaeth fechan; lle bynnag y bydd y coelbren yn disgyn i unrhyw un, yno y bydd ei feddiant. Felly yr ydych i rannu'r etifeddiaeth yn �l llwythau eich hynafiaid. 55 Os na fyddwch yn gyrru allan drigolion y wlad o'ch blaen, yna bydd y rhai a adawyd gennych yn bigau yn eich llygaid ac yn ddrain yn eich ystlys, a byddant yn eich poenydio yn y wlad y byddwch yn byw ynddi; 56 ac fe wnaf i chwi yr hyn a fwriedais ei wneud iddynt hwy.'"