Welsh

Numbers

34

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Gorchymyn bobl Israel, a dywed wrthynt, 'Pan fyddwch yn mynd i mewn i wlad Canaan, bydd terfynau'r wlad a gewch yn etifeddiaeth fel a ganlyn: 3 i'r de bydd yn ymestyn o anialwch Sin a heibio i Edom, ac yn y dwyrain bydd eich terfyn deheuol yn ymestyn o ben draw M�r yr Heli, 4 ac yn troi o lethrau Acrabbim a throsodd i Sin, ac yna i'r de o Cades-barnea; oddi yno � ymlaen i Hasar-adar a throsodd i Asmon; 5 yna fe dry'r terfyn o Asmon at nant yr Aifft, a gorffen wrth y m�r. 6 "'I'r gorllewin, y terfyn fydd y M�r Mawr a'r arfordir; hwn fydd eich terfyn gorllewinol. 7 "'Dyma fydd eich terfyn i'r gogledd: tynnwch linell o'r M�r Mawr i Fynydd Hor, 8 ac o Fynydd Hor i Lebo-hamath; bydd y terfyn yn cyrraedd hyd Sedad, 9 yna'n ymestyn i Siffron, a gorffen yn Hasar-enan; dyma fydd eich terfyn gogleddol. 10 "'Ar ochr y dwyrain, tynnwch linell o Hasar-enan i Seffan; 11 fe �'r terfyn i lawr o Seffan i Ribla, i'r dwyrain o Ain, ac yna i lawr ymhellach ar hyd y llechweddau i'r dwyrain o F�r Cinnereth; 12 yna fe �'r terfyn i lawr ar hyd yr Iorddonen, a gorffen wrth F�r yr Heli. Hon fydd eich gwlad, a'r rhain fydd ei therfynau oddi amgylch.'" 13 Rhoddodd Moses orchymyn i bobl Israel, a dweud, "Dyma'r wlad yr ydych i'w rhannu'n etifeddiaeth trwy goelbren, a'i rhoi i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD; 14 y mae llwythau teuluoedd meibion Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn eu hetifeddiaeth; 15 derbyniodd y ddau lwyth a hanner eu hetifeddiaeth hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, tua chodiad haul." 16 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 17 "Dyma enwau'r dynion sydd i rannu'r wlad yn etifeddiaeth i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua fab Nun. 18 Cymerwch hefyd un pennaeth o bob llwyth i rannu'r wlad yn etifeddiaeth. 19 Dyma eu henwau: o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne; 20 o lwyth meibion Simeon, Semuel fab Ammihud; 21 o lwyth Benjamin, Elidad fab Cislon; 22 o lwyth meibion Dan, y pennaeth fydd Bucci fab Jogli; 23 o feibion Joseff: o lwyth meibion Manasse, y pennaeth fydd Haniel fab Effad; 24 o lwyth meibion Effraim, y pennaeth fydd Cemuel fab Sifftan; 25 o lwyth meibion Sabulon, y pennaeth fydd Elisaffan fab Parnach; 26 o lwyth meibion Issachar, y pennaeth fydd Paltiel fab Assan; 27 o lwyth meibion Aser, y pennaeth fydd Ahihud fab Salomi; 28 o lwyth meibion Nafftali, y pennaeth fydd Pedahel fab Ammihud. 29 Dyma'r dynion y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu'r etifeddiaeth i bobl Israel yng ngwlad Canaan."