Welsh

Proverbs

1

1 Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel � 2 i gael doethineb ac addysg, i ddeall geiriau deallus, 3 i dderbyn addysg fuddiol, cyfiawnder, barn, ac uniondeb, 4 i roi craffter i'r gwirion, a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc. 5 Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg, a'r deallus yn ennill medrusrwydd, 6 i ddeall dameg a'i dehongliad, dywediadau'r doeth a'u posau. 7 Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth. 8 Fy mab, gwrando ar addysg dy dad, paid � gwrthod cyfarwyddyd dy fam; 9 bydd yn dorch brydferth ar dy ben, ac yn gadwyn am dy wddf. 10 Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid, paid � chytuno � hwy. 11 Fe ddywedant, "Tyrd gyda ni, inni gynllwynio i dywallt gwaed, a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed; 12 fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll; 13 fe gymerwn bob math ar gyfoeth, a llenwi ein tai ag ysbail; 14 bwrw dy goelbren gyda ni, a bydd un pwrs rhyngom i gyd." 15 Fy mab, paid � mynd yr un ffordd � hwy; cadw dy droed oddi ar eu llwybr. 16 Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg, ac yn prysuro i dywallt gwaed. 17 Yn sicr, ofer yw gosod rhwyd yng ngolwg unrhyw aderyn hedegog. 18 Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio, ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain. 19 Dyma dynged pob un awchus am elw; y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau. 20 Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd, yn codi ei llais yn y sgw�r, 21 yn gweiddi ar ben y muriau, yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas. 22 Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion, ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar, ac y cas� ffyliaid wybodaeth? 23 Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd, tywalltaf fy ysbryd arnoch, a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau. 24 Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb, ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando; 25 am i chwi ddiystyru fy holl gyngor, a gwrthod fy ngherydd � 26 am hynny, chwarddaf ar eich dinistr, a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch, 27 pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt, a dinistr yn taro fel storm, pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch. 28 Yna galwant arnaf, ond nid atebaf; fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael. 29 Oherwydd iddynt gas�u gwybodaeth, a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD, 30 a gwrthod fy nghyngor, ac anwybyddu fy holl gerydd, 31 c�nt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd, a syrffedu ar eu cynlluniau. 32 Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd, a difrawder y ffyliaid yn eu difa. 33 Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel, yn dawel heb ofni drwg.