1 Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion, 2 a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall; 3 os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth, 4 a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor � 5 yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw. 6 Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall. 7 Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir. 8 Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder, ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid. 9 Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn, ac uniondeb a phob ffordd dda; 10 oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl, a deall yn rhoi pleser iti. 11 Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod, 12 ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni, a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus � 13 y rhai sy'n gadael y ffordd iawn i rodio yn llwybrau tywyllwch, 14 sy'n cael pleser mewn gwneud drwg a mwynhad mewn twyll, 15 y rhai y mae eu ffordd yn gam a'u llwybrau'n droellog. 16 Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar, 17 sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid, ac wedi anghofio cyfamod ei Duw. 18 Oherwydd y mae ei thu375? yn gwyro at angau, a'i llwybrau at y cysgodion. 19 Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei �l, ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd. 20 Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da, a chadw at lwybrau'r cyfiawn. 21 Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir, a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo; 22 ond torrir y rhai drwg o'r tir, a diwreiddir y twyllwyr ohono.