1 Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof. 2 Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant. 3 Paid � gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon; 4 a byddi'n ennill ffafr ac enw da yng ngolwg Duw a dynion. 5 Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid � dibynnu ar dy ddeall dy hun. 6 Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union. 7 Paid � bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg. 8 Bydd hyn yn iechyd i'th gorff, ac yn faeth i'th esgyrn. 9 Anrhydedda'r ARGLWYDD �'th gyfoeth, ac � blaenffrwyth dy holl gynnyrch. 10 Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn, a'th gafnau'n gorlifo gan win. 11 Fy mab, paid � diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, a phaid � digio wrth ei gerydd; 12 oherwydd ceryddu'r un a g�r y mae'r ARGLWYDD, fel tad sy'n hoff o'i blentyn. 13 Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a'r un sy'n berchen deall. 14 Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur. 15 Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi. 16 Yn ei llaw dde y mae hir oes, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith. 17 Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd, a heddwch sydd ar ei holl lwybrau. 18 Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi, a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi. 19 Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear, ac � deall y sicrhaodd y nefoedd; 20 trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau, ac y defnynna'r cymylau wlith. 21 Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll; paid �'u gollwng o'th olwg; 22 byddant yn iechyd i'th enaid, ac yn addurn am dy wddf. 23 Yna cei gerdded ymlaen heb bryder, ac ni fagla dy droed. 24 Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni, a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys. 25 Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth, na dinistr y drygionus pan ddaw; 26 oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti, ac yn cadw dy droed rhag y fagl. 27 Paid � gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu, os yw yn dy allu i'w gwneud. 28 Paid � dweud wrth dy gymydog, "Tyrd yn d'�l eto, ac fe'i rhoddaf iti yfory", er ei fod gennyt yn awr. 29 Paid � chynllunio drwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau'n ymddiried ynot. 30 Paid � chweryla'n ddiachos ag unrhyw un, ac yntau heb wneud cam � thi. 31 Paid � chenfigennu wrth ormeswr, na dewis yr un o'i ffyrdd. 32 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus, ond yn rhannu ei gyfrinach �'r uniawn. 33 Y mae melltith yr ARGLWYDD ar du375?'r drygionus, ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn. 34 Er iddo ddirmygu'r dirmygwyr, eto fe rydd ffafr i'r gostyngedig. 35 Etifedda'r doeth anrhydedd, ond y ffyliaid bentwr o warth.