1 Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond pwysau cywir wrth ei fodd. 2 Yn dilyn balchder fe ddaw amarch, ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb. 3 Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn, ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr. 4 Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau. 5 Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union, ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni. 6 Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn, ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr. 7 Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith, a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth. 8 Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd, ond fe �'r drygionus dros ei ben iddo. 9 Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog �'i eiriau, ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall. 10 Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn, a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus. 11 Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn, ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus. 12 Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog, ond cadw'n dawel a wna'r deallus. 13 Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach, ond y mae'r teyrngar yn ei chadw. 14 Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl, ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr. 15 Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn, ond y mae'r un sy'n cas�u mechn�aeth yn ddiogel. 16 Y mae gwraig raslon yn cael clod, ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth. 17 Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog, ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon. 18 Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus, ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg. 19 I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd, ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth. 20 Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd. 21 Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb, ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd. 22 Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr. 23 Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn, ond diflanna gobaith y drygionus. 24 Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth, ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen. 25 Llwydda'r un a wasgar fendithion, a diwellir yr un a ddiwalla eraill. 26 Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni u375?d, ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu. 27 Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr, ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn. 28 Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth, ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd. 29 Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt, a bydd y ff�l yn was i'r doeth. 30 Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd, ond y mae trais yn difa bywydau. 31 Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear, pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?