Welsh

Proverbs

12

1 Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth, ond hurtyn sy'n cas�u cerydd. 2 Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD, ond condemnir y dichellgar. 3 Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni, ac ni ddiwreiddir y cyfiawn. 4 Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gu373?r, ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn. 5 Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir, ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus. 6 Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus, ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu. 7 Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt, ond saif tu375?'r cyfiawn yn gadarn. 8 Canmolir rhywun ar sail ei ddeall, ond gwawdir y meddwl tro�dig. 9 Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid, na bod yn ymffrostgar a heb fwyd. 10 Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail, ond y mae'r drygionus yn ddidostur. 11 Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr. 12 Blysia'r drygionus am ysbail drygioni, ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr. 13 Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau, ond dianc y cyfiawn rhag adfyd. 14 Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un � daioni, a thelir iddo yn �l yr hyn a wnaeth. 15 Y mae ffordd y ff�l yn iawn yn ei olwg, ond gwrendy'r doeth ar gyngor. 16 Buan y dengys y ff�l ei fod wedi ei gythruddo, ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad. 17 Y mae tyst gonest yn dweud y gwir, ond celwydd a draetha'r gau dyst. 18 Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iach�u. 19 Erys geiriau gwir am byth, ond ymadrodd celwyddog am eiliad. 20 Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg, ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch. 21 Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn, ond bydd y drygionus yn llawn helbul. 22 Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd. 23 Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth, ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb. 24 Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod, ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed. 25 Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun, ond llawenheir ef gan air caredig. 26 Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain. 27 Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa, ond gan y diwyd bydd golud mawr. 28 Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd, ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau.