1 Y mae mab doeth yn derbyn disgyblaeth tad, ond ni wrendy gwatwarwr ar gerydd. 2 Trwy ffrwyth ei enau y digonir pob un � daioni, ond awchu am drais y mae twyllwyr. 3 Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd, ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod. 4 Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim, ond y mae'r diwyd yn ffynnu. 5 Y mae'r cyfiawn yn cas�u twyll, ond y mae'r drygionus yn gweithredu'n ffiaidd a gwarthus. 6 Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir, ond drygioni yn dymchwel y pechadur. 7 Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo; ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn. 8 Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth, ond ni chlyw'r tlawd fygythion. 9 Disgleiria goleuni'r cyfiawn, ond diffydd lamp y drygionus. 10 Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio, ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor. 11 Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech, ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda. 12 Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon, ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol. 13 Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor, ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn. 14 Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth. 15 Y mae deall da yn ennill ffafr, ond garw yw ffordd y twyllwyr. 16 Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus, ond y mae'r ff�l yn amlygu ffolineb. 17 Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr, ond cennad cywir yn dwyn lles. 18 Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth, ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd. 19 Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas, ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg. 20 Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb, ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid. 21 Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid, ond daioni yw gwobr y cyfiawn. 22 Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant, ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn. 23 Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion, ond heb gyfiawnder fe ddiflanna. 24 Cas�u ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen, ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson. 25 Y mae'r cyfiawn yn bwyta hyd ddigon, ond gwag fydd bol y drygionus.