1 Y mae ateb llednais yn dofi dig, ond gair garw yn cynnau llid. 2 Y mae tafod y doeth yn clodfori deall, ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb. 3 Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man, yn gwylio'r drwg a'r da. 4 Y mae tafod tyner yn bren bywiol, ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd. 5 Diystyra'r ff�l ddisgyblaeth ei dad, ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd. 6 Y mae llawer o gyfoeth yn nhu375?'r cyfiawn, ond trallod sydd yn enillion y drygionus. 7 Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth, ond nid felly feddwl y ffyliaid. 8 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus, ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd. 9 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus, ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder. 10 Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd, a bydd y sawl sy'n cas�u cerydd yn trengi. 11 Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD; pa faint mwy feddyliau pobl? 12 Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd; nid yw'n cyfeillachu �'r doethion. 13 Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb, ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl. 14 Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth, ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb. 15 I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus, ond y mae calon hapus yn wledd wastadol. 16 Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD na chyfoeth mawr a thrallod gydag ef. 17 Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad, nag ych pasgedig a chasineb gydag ef. 18 Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen, ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl. 19 Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri, ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad. 20 Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad, ond y mae'r ff�l yn dilorni ei fam. 21 Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr, ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union. 22 Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori, ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr. 23 Caiff rhywun foddhad pan fydd ganddo ateb, a beth sy'n well na gair yn ei bryd? 24 Y mae ffordd y bywyd yn dyrchafu'r deallus, i'w droi oddi wrth Sheol isod. 25 Y mae'r ARGLWYDD yn dymchwel tu375?'r balch, ond yn diogelu terfynau'r weddw. 26 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw bwriadau drwg, ond y mae geiriau pur yn hyfrydwch iddo. 27 Y mae'r un sy'n awchu am elw yn creu anghydfod yn ei du375?, ond y sawl sy'n cas�u cil-dwrn yn cael bywyd. 28 Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb, ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg. 29 Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus, ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn. 30 Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon, a newydd da yn adfywio'r corff. 31 Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywyd yn aros yng nghwmni'r doeth. 32 Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gas�u ei hun, ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall. 33 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb, a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.