1 Pobl biau trefnu eu meddyliau, ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw ateb y tafod. 2 Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn pwyso'r cymhellion. 3 Cyflwyna dy weithredoedd i'r ARGLWYDD, a chyflawnir dy gynlluniau. 4 Gwnaeth yr ARGLWYDD bob peth i bwrpas, hyd yn oed y drygionus ar gyfer dydd adfyd. 5 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw pob un balch; y mae'n sicr na chaiff osgoi cosb. 6 Trwy deyrngarwch a ffyddlondeb y maddeuir camwedd, a thrwy ofn yr ARGLWYDD y troir oddi wrth ddrwg. 7 Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun, gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef. 8 Gwell ychydig gyda chyfiawnder nag enillion mawr heb farn. 9 Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd, ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre. 10 Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin; nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder. 11 Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn; a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god. 12 Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg, oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd. 13 Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn, a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn. 14 Y mae llid brenin yn gennad angau, ond fe'i dofir gan yr un doeth. 15 Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd, ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn. 16 Gwell nag aur yw ennill doethineb, a gwell dewis deall nag arian. 17 Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni, a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd. 18 Daw balchder o flaen dinistr, ac ymffrost o flaen cwymp. 19 Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenus na rhannu ysbail gyda'r balch. 20 Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo, a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd. 21 Y doeth o galon a ystyrir yn ddeallus, a geiriau deniadol sy'n ychwanegu dysg. 22 Y mae deall yn ffynnon bywyd i'w berchennog, ond ffolineb yn ddisgyblaeth i ffyliaid. 23 Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus, ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion. 24 Y mae geiriau teg fel diliau m�l, yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff. 25 Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth. 26 Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio, a'i enau sy'n ei annog ymlaen. 27 Y mae dihiryn yn cynllunio drwg; y mae fel t�n poeth ar ei wefusau. 28 Y mae rhywun croes yn creu cynnen, a'r straegar yn gwahanu cyfeillion. 29 Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill, ac yn ei arwain ar ffordd wael. 30 Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster, a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni. 31 Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd; fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn. 32 Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr, a rheoli tymer na chipio dinas. 33 Er bwrw'r coelbren i'r arffed, oddi wrth yr ARGLWYDD y daw pob dyfarniad.