Welsh

Proverbs

18

1 Y mae'r un sy'n cadw ar wah�n yn ceisio cweryl, ac yn ymosod ar bob cynllun. 2 Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall, dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun. 3 Yn dilyn drygioni fe ddaw dirmyg, a gwarth ar �l amarch. 4 Y mae geiriau yn ddyfroedd dyfnion, yn ffrwd yn byrlymu, yn ffynnon doethineb. 5 Nid da yw dangos ffafr tuag at y drygionus, i amddifadu'r cyfiawn o farn. 6 Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen, a'i eiriau yn gofyn am gurfa. 7 Genau'r ynfyd yw ei ddinistr, ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun. 8 Y mae geiriau'r straegar fel danteithion sy'n mynd i lawr i'r cylla. 9 Y mae'r diog yn ei waith yn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr. 10 Y mae enw'r ARGLWYDD yn du373?r cadarn; rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel. 11 Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn, ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun. 12 Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch, ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd. 13 Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrando yn dangos ffolineb ac amarch. 14 Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd, ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd? 15 Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth, a chlust y doeth yn chwilio am ddeall. 16 Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo, ac yn ei arwain at y mawrion. 17 Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn, nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi. 18 Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon, ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn. 19 Y mae brawd a dramgwyddwyd fel caer gadarn, a chwerylon fel bollt castell. 20 O ffrwyth ei enau y digonir cylla pob un, a chynnyrch ei wefusau sy'n ei ddiwallu. 21 Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd, ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth. 22 Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioni ac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD. 23 Y mae'r tlawd yn siarad yn ymbilgar, ond y cyfoethog yn ateb yn arw. 24 Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.