1 Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onest na'r un twyllodrus ei eiriau, ac yntau'n ynfyd. 2 Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall; y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd. 3 Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd, ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig. 4 Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion, ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd. 5 Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd. 6 Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig, a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi. 7 Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gas�u; gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho! Y mae'n eu dilyn � geiriau, ond nid ydynt yno. 8 Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd, a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni. 9 Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, a difethir yr un sy'n dweud celwydd. 10 Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd, na rheoli tywysogion i gaethwas. 11 Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar, a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd. 12 Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc, ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt. 13 Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad, a checru gwraig fel diferion parhaus. 14 Oddi wrth rieni yr etifeddir tu375? a chyfoeth, ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus. 15 Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg, ac i'r diogyn daw newyn. 16 Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun, ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw. 17 Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe d�l ef yn �l iddo am ei weithred. 18 Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo, ond gofala beidio �'i ladd. 19 Daw cosb ar y gwyllt ei dymer; er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto. 20 Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth, er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd. 21 Niferus yw bwriadau meddwl pobl, ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll. 22 Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch, a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog. 23 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd, a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed. 24 Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl, eto nid yw'n ei chodi at ei enau. 25 Os curi'r gwatwarwr, bydd y gwirion yn dysgu gwers; os ceryddi'r deallus, ef ei hun sy'n ennill gwybodaeth. 26 Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei fam yn fab gwaradwyddus ac amharchus. 27 Fy mab, os gwrthodi wrando ar gerydd, byddi'n troi oddi wrth eiriau gwybodaeth. 28 Y mae tyst anonest yn gwatwar barn, a genau'r drygionus yn parablu camwedd. 29 Trefnwyd cosb ar gyfer gwatwarwyr, a chernodiau i gefn ynfydion.