1 Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn; nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad. 2 Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc; y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd. 3 Clod i bob un yw gwrthod cweryla, ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn. 4 Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref; eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael. 5 Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion, ond gall dyn deallus ei dynnu allan. 6 Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar, ond pwy a all gael dyn ffyddlon? 7 Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir; gwyn eu byd ei blant ar ei �l! 8 Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barn yn gallu nithio pob drwg �'i lygaid. 9 Pwy a all ddweud, "Yr wyf wedi puro fy meddwl; yr wyf yn l�n o'm pechod"? 10 Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau, y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. 11 Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanc a yw ei waith yn bur ac yn uniawn. 12 Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld, yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau. 13 Paid � bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd; cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd. 14 "Gwael iawn," meddai'r prynwr; ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen. 15 Y mae digonedd o aur ac o emau, ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf. 16 Cymer wisg y sawl sy'n mechn�o dros estron, a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn. 17 Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll, ond yn y diwedd llenwir ei geg � graean. 18 Sicrheir cynlluniau trwy gyngor; rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel. 19 Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach; paid � chyfeillachu �'r llac ei dafod. 20 Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam, diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew. 21 Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau, ni bydd bendith ar ei diwedd. 22 Paid � dweud, "Talaf y pwyth yn �l"; disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam. 23 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau, ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus. 24 Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl; sut y gall neb ddeall ei ffordd? 25 Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll, ac yna dechrau ystyried ar �l gwneud addunedau. 26 Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus, ac yn troi'r rhod yn eu herbyn. 27 Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl, i chwilio i ddyfnderau eu bod. 28 Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin, a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch. 29 Gogoniant yr ifainc yw eu nerth, ac addurn i'r hen yw penwynni. 30 Y mae taro i'r byw yn gwella drwg, a dyrnodiau yn iach�u rhywun drwyddo.