Welsh

Proverbs

21

1 Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddu373?r; fe'i try i ble bynnag y dymuna. 2 Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon. 3 Y mae gwneud cyfiawnder a barn yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth. 4 Llygaid balch a chalon ymffrostgar, dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod. 5 Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd, ond daw angen ar bob un sydd mewn brys. 6 Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd fel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth. 7 Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais, am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn. 8 Troellog yw ffordd y troseddwr, ond uniawn yw gweithred y didwyll. 9 Gwell yw byw mewn congl ar ben tu375? na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. 10 Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg; nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog. 11 Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth; ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall. 12 Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar du375?'r drygionus; y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr. 13 Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd, ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw. 14 Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a chil-dwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr. 15 Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder, ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg. 16 Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall yn gorffwys yng nghwmni'r meirw. 17 Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser, ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog. 18 Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn, a'r twyllwr dros y rhai uniawn. 19 Gwell byw mewn anialwch na chyda gwraig gecrus a dicllon. 20 Yn nhu375?'r doeth y mae trysor dymunol ac olew, ond y mae'r ff�l yn eu difa. 21 Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd. 22 Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarn a bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi. 23 Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod, fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau. 24 Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw, gweithreda yn gwbl drahaus. 25 Y mae blys y diog yn ei ladd, am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio. 26 Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser, ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed. 27 Ffiaidd yw aberth y drygionus, yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell. 28 Difethir y tyst celwyddog, ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru. 29 Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb, ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd. 30 Nid yw doethineb na deall na chyngor yn ddim o flaen yr ARGLWYDD. 31 Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr, eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.