Welsh

Proverbs

22

1 Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer, a gwell yw parch nag arian ac aur. 2 Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd: yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau. 3 Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny. 4 Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd. 5 Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig, ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt. 6 Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith, ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia. 7 Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr. 8 Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid, a bydd gwialen ei ymffrost yn methu. 9 Bendithir yr un hael am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd. 10 Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson, a diwedd ar ddadlau a gwawd. 11 Yr un sy'n hoffi purdeb meddwl a geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin. 12 Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall, ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr. 13 Dywed y diog, "Y mae llew y tu allan; fe'm lleddir yn y stryd." 14 Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn; y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo. 15 Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn, ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho. 16 Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun, ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen. 17 Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion, a gosod dy feddwl ar fy neall; 18 oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon, ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau. 19 Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD yr wyf yn eu dysgu iti heddiw � ie, i ti! 20 Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau, yn llawn cyngor a deall, 21 i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir, fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd? 22 Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd, a phaid � sathru'r anghenus yn y porth; 23 oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos, ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy. 24 Paid � chyfeillachu � neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon, 25 rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl. 26 Paid � rhoi gwystl, a mynd yn feichiau am ddyledion; 27 os na fydd gennyt ddim i dalu, oni chymerir dy wely oddi arnat? 28 Paid � symud yr hen derfynau a osodwyd gan dy hynafiaid. 29 Gwelaist un medrus yn ei waith; bydd yn gwasanaethu brenhinoedd, ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.