Welsh

Proverbs

24

1 Paid � chenfigennu wrth bobl ddrwg, na dymuno bod yn eu cwmni; 2 oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais, a'u genau'n s�n am drybini. 3 Fe adeiledir tu375? trwy ddoethineb, a'i sicrhau trwy wybodaeth. 4 Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd � phob eiddo gwerthfawr a dymunol. 5 Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf, a'r un deallus na'r un nerthol; 6 oherwydd gelli drefnu dy frwydr � medrusrwydd, a chael buddugoliaeth � llawer o gynghorwyr. 7 Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffu373?l; nid yw'n agor ei geg yn y porth. 8 Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwg yn cael ei alw yn ddichellgar. 9 Y mae dichell y ffu373?l yn bechod, ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr. 10 Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan. 11 Achub y rhai a ddygir i farwolaeth; rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd. 12 Os dywedi, "Ni wyddem ni am hyn", onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall? Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod, ac yn talu i bob un yn �l ei waith. 13 Fy mab, bwyta f�l, oherwydd y mae'n dda, ac y mae diliau m�l yn felys i'th enau. 14 Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd; os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol, ac ni thorrir ymaith dy obaith. 15 Paid � llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn, a phaid ag ymosod ar ei gartref. 16 Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd; ond fe feglir y drygionus gan adfyd. 17 Paid � llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalch�o pan feglir ef, 18 rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon, a throi ei ddig oddi wrtho. 19 Na fydd ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. 20 Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg, a diffoddir goleuni'r drygionus. 21 Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin; paid � bod yn anufudd iddynt, 22 oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt, a phwy a u373?yr y distryw a achosant ill dau? 23 Dyma hefyd eiriau'r doethion: Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn. 24 Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, "Yr wyt yn ddieuog", fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd. 25 Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad, a daw gwir fendith arnynt. 26 Y mae rhoi ateb gonest fel rhoi cusan ar wefusau. 27 Rho drefn ar dy waith y tu allan, a threfna'r hyn sydd yn dy gae, ac yna adeilada dy du375?. 28 Paid � thystio yn erbyn dy gymydog yn ddiachos, na thwyllo �'th eiriau. 29 Paid � dweud, "Gwnaf iddo fel y gwnaeth ef i mi; talaf iddo yn �l ei weithred." 30 Euthum heibio i faes un diog, ac i winllan un disynnwyr, 31 a sylwais eu bod yn llawn drain, a danadl drostynt i gyd, a'u mur o gerrig wedi ei chwalu. 32 Edrychais arnynt ac ystyried; sylwais a dysgu gwers: 33 ychydig gwsg, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i orffwys, 34 a daw tlodi atat fel dieithryn creulon, ac angen fel gu373?r arfog.