Welsh

Proverbs

25

1 Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, a gofnodwyd gan wu375?r Heseceia brenin Jwda: 2 Gogoniant Duw yw cadw pethau'n guddiedig, a gogoniant brenhinoedd yw eu chwilio allan. 3 Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn, felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd. 4 Symud yr amhuredd o'r arian, a daw'n llestr yn llaw'r gof. 5 Symud y drygionus o u373?ydd y brenin, a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder. 6 Paid ag ymddyrchafu yng ngu373?ydd y brenin, na sefyll yn lle'r mawrion, 7 oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny, na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig. 8 Paid � brysio i wneud achos o'r hyn a welaist, rhag, wedi iti orffen gwneud hynny, i'th gymydog ddwyn gwarth arnat. 9 Dadlau dy achos �'th gymydog, ond paid � dadlennu cyfrinach rhywun arall, 10 rhag iddo dy sarhau pan glyw, a thithau'n methu galw dy annoethineb yn �l. 11 Fel afalau aur ar addurniadau o arian, felly y mae gair a leferir yn ei bryd. 12 Fel modrwy aur neu addurn o aur gwerthfawr, felly y mae cerydd y doeth i glust sy'n gwrando. 13 Fel oerni eira yn amser cynhaeaf, felly y mae negesydd ffyddlon i'r rhai sy'n ei anfon; y mae'n adfywio ysbryd ei feistri. 14 Fel cymylau a gwynt, na roddant law, felly y mae'r un sy'n brolio rhodd heb ei rhoi. 15 Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr, a gall tafod tyner dorri asgwrn. 16 Os cei f�l, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat, rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny. 17 Paid � mynd yn rhy aml i du375? dy gymydog, rhag iddo gael digon arnat, a'th gas�u. 18 Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw, felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog. 19 Fel dant drwg, neu droed yn llithro, felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd. 20 Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer, neu roi finegr ar friw, felly y mae canu caneuon i galon drist. 21 Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta, ac os yw'n sychedig, rho iddo ddu373?r i'w yfed; 22 byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben, ac fe d�l yr ARGLWYDD iti. 23 Y mae gwynt y gogledd yn dod � glaw, a thafod enllibus yn dod � chilwg. 24 Y mae'n well byw mewn congl ar ben tu375? na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. 25 Fel du373?r oer i lwnc sychedig, felly y mae newydd da o wlad bell. 26 Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru, felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus. 27 Nid yw'n dda bwyta gormod o f�l, a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth. 28 Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur, felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.