Welsh

Proverbs

26

1 Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf, felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ff�l. 2 Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio, felly ni chyflawnir melltith ddiachos. 3 Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn ffyliaid! 4 Paid ag ateb y ffu373?l yn �l ei ffolineb, rhag i ti fynd yn debyg iddo. 5 Ateb y ffu373?l yn �l ei ffolineb, rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun. 6 Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffu373?l yn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais. 7 Fel coesau'r cloff yn honcian, felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid. 8 Fel gosod carreg mewn ffon dafl, felly y mae rhoi anrhydedd i ffu373?l. 9 Fel draenen yn mynd i law meddwyn, felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid. 10 Fel saethwr yn clwyfo pawb sy'n mynd heibio, felly y mae'r un sy'n cyflogi ffu373?l neu feddwyn. 11 Fel ci yn troi'n �l at ei gyfog, felly y mae'r ffu373?l sy'n ailadrodd ei ffolineb. 12 Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun; y mae mwy o obaith i ffu373?l nag iddo ef. 13 Dywed y diog, "Y mae llew ar y ffordd, llew yn rhydd yn y strydoedd!" 14 Fel y mae drws yn troi ar ei golyn, felly y mae'r diog yn ei wely. 15 Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl, ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg. 16 Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hun na saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol. 17 Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio, felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall. 18 Fel rhywun gwallgof yn saethu pentewynion � saethau marwol, 19 felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog, ac yn dweud, "Dim ond cellwair yr oeddwn." 20 Heb goed fe ddiffydd t�n, a heb y straegar fe dderfydd am gynnen. 21 Fel glo i farwor, a choed i d�n, felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen. 22 Y mae geiriau'r straegar fel danteithion sy'n mynd i lawr i'r cylla. 23 Fel golchiad arian ar lestr pridd, felly y mae geiriau esmwyth a chalon ddrygionus. 24 Y mae gelyn yn rhagrithio �'i eiriau, ac yn cynllunio twyll yn ei galon; 25 pan yw'n llefaru'n deg, paid ag ymddiried ynddo, oherwydd y mae saith peth ffiaidd yn ei feddwl; 26 er iddo guddio'i gasineb � rhagrith, datguddir ei ddrygioni yn y gynulleidfa. 27 Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a daw carreg yn �l ar yr un sy'n ei threiglo. 28 Y mae tafod celwyddog yn cas�u purdeb, a genau gwenieithus yn dwyn dinistr.