Welsh

Proverbs

30

1 Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal: 2 Yr wyf yn fwy anwar na neb; nid oes deall dynol gennyf. 3 Ni ddysgais ddoethineb, ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd. 4 Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn? Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn? Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg? Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear? Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod? 5 Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi; y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo. 6 Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau, rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog. 7 Gofynnaf am ddau beth gennyt; paid �'u gwrthod cyn imi farw: 8 symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf; paid � rhoi imi dlodi na chyfoeth; portha fi �'m dogn o fwyd, 9 rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu, a dweud, "Pwy yw'r ARGLWYDD?" Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr, a gwneud drwg i enw fy Nuw. 10 Paid � difr�o gwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog. 11 Y mae rhai yn melltithio'u tad, ac yn amharchu eu mam. 12 Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain, ond heb eu glanhau o'u haflendid. 13 Y mae rhai yn ymddwyn yn falch, a'u golygon yn uchel. 14 Y mae rhai �'u dannedd fel cleddyfau, a'u genau fel cyllyll, yn difa'r tlawd o'r tir, a'r anghenus o blith pobl. 15 Y mae gan y gele ddwy ferch sy'n dweud, "Dyro, dyro." Y mae tri pheth na ellir eu digoni, ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, "Digon": 16 Sheol, a'r groth amhlantadwy, a'r tir sydd heb ddigon o ddu373?r, a'r t�n nad yw byth yn dweud, "Digon". 17 Y llygad sy'n gwatwar tad, ac yn dirmygu ufudd-dod i fam, fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn, ac fe'i bwyteir gan y fwltur. 18 Y mae tri pheth yn rhyfeddol imi, pedwar na allaf eu deall: 19 ffordd yr eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong ar y cefnfor, a ffordd dyn gyda merch. 20 Dyma ymddygiad y wraig odinebus: y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg, ac yn dweud, "Nid wyf wedi gwneud drwg." 21 Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear, pedwar na all hi eu dioddef: 22 gwas pan ddaw'n frenin, ffu373?l pan gaiff ormod o fwyd, 23 dynes atgas yn cael gu373?r, a morwyn yn disodli ei meistres. 24 Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach, ond yn eithriadol ddoeth: 25 y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder, ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf; 26 y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth, ond sy'n codi eu tai yn y creigiau; 27 y locustiaid, nad oes ganddynt frenin, ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd; 28 a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law, ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd. 29 Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad, pedwar sy'n rhodio'n urddasol: 30 llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid, nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt; 31 ceiliog yn torsythu; bwch gafr; a brenin yn arwain ei bobl. 32 Os bu iti ymddwyn yn ff�l trwy ymffrostio, neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau. 33 Oherwydd o gorddi llaeth ceir ymenyn, o wasgu'r trwyn ceir gwaed, ac o fegino llid ceir cynnen.