Welsh

Proverbs

31

1 Geiriau Lemuel brenin Massa, y rhai a ddysgodd ei fam iddo: 2 Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth? Beth yw hyn, mab fy addunedau? 3 Paid � threulio dy nerth gyda merched, na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd. 4 Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel, nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin, ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn, 5 rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd, a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd. 6 Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod, a gwin i'r chwerw ei ysbryd; 7 c�nt hwy yfed ac anghofio'u tlodi, a pheidio � chofio'u gofid byth mwy. 8 Dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith. 9 Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn; cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd. 10 Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus? Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau. 11 Y mae calon ei gu373?r yn ymddiried ynddi, ac ni fydd pall ar ei henillion. 12 Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled, a hynny ar hyd ei hoes. 13 Y mae'n ceisio gwl�n a llin, ac yn cael pleser o weithio �'i dwylo. 14 Y mae, fel llongau masnachwr, yn dwyn ei hymborth o bell. 15 Y mae'n codi cyn iddi ddyddio, yn darparu bwyd i'w thylwyth, ac yn trefnu gorchwylion ei morynion. 16 Ar �l ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes, ac yn plannu gwinllan �'i henillion. 17 Y mae'n gwregysu ei llwynau � nerth, ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau. 18 Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol, ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos. 19 Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail, a'i dwylo'n gafael yn y werthyd. 20 Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus, a'i dwylo i'r tlawd. 21 Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira, oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd. 22 Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun, ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor. 23 Y mae ei gu373?r yn adnabyddus yn y pyrth, pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal. 24 Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu, ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr. 25 Y mae wedi ei gwisgo � nerth ac anrhydedd, ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin. 26 Y mae'n siarad yn ddoeth, a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod. 27 Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod. 28 Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio; a bydd ei gu373?r yn ei chanmol: 29 "Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus, ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd." 30 Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod, ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol. 31 Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo, a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.