1 Fy mab, rho sylw i'm doethineb, a gwrando ar fy neall, 2 er mwyn iti ddal ar synnwyr ac i'th wefusau ddiogelu deall. 3 Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu m�l, a'i geiriau yn llyfnach nag olew, 4 ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod, yn llymach na chleddyf daufiniog. 5 Prysura ei thraed at farwolaeth, ac arwain ei chamre i Sheol. 6 Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd; y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid. 7 Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf, a pheidiwch � throi oddi wrth fy ymadroddion. 8 Cadw draw oddi wrth ei ffordd; paid � mynd yn agos at ddrws ei thu375?; 9 rhag iti roi dy enw da i eraill a'th urddas i estroniaid, 10 a rhag i ddieithriaid ymborthi ar dy gyfoeth ac i'th lafur fynd i du375? estron; 11 rhag iti gael gofid pan ddaw dy ddiwedd, pan fydd dy gorff a'th gnawd yn darfod, 12 a dweud, "Pam y bu imi gas�u disgyblaeth, ac anwybyddu cerydd? 13 Nid oeddwn yn gwrando ar lais fy athrawon, nac yn rhoi sylw i'r rhai a'm dysgai. 14 Yr oeddwn ar fin bod yn gwbl ddrwg yng ngolwg y gynulleidfa gyfan." 15 Yf ddu373?r o'th bydew dy hun, du373?r sy'n tarddu o'th ffynnon di. 16 Paid � gadael i'th ffynhonnau orlifo i'r ffordd, na'th ffrydiau du373?r i'r stryd. 17 Byddant i ti dy hun yn unig, ac nid i'r dieithriaid o'th gwmpas. 18 Bydded bendith ar dy ffynnon, a llawenha yng ngwraig dy ieuenctid, 19 ewig hoffus, iyrches ddymunol; bydded i'w bronnau dy foddhau bob amser, a chymer bleser o'i chariad yn gyson. 20 Fy mab, pam y ceisi bleser gyda gwraig ddieithr, a chofleidio estrones? 21 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffyrdd pob un, ac yn chwilio ei holl lwybrau. 22 Delir y drygionus gan ei gamwedd ei hun, ac fe'i caethiwir yng nghadwynau ei bechod; 23 bydd farw o ddiffyg disgyblaeth, ar goll oherwydd ei ffolineb mawr.