Welsh

Proverbs

6

1 Fy mab, os rhoddaist wystl i'th gymydog, neu fynd yn feichiau i ddieithryn, 2 a chael dy rwymo gan dy eiriau dy hun, a'th ddal gan eiriau dy enau, 3 yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun: gan dy fod yn llaw dy gymydog, dos ar frys ac ymbil �'th gymydog; 4 paid � rhoi cwsg i'th lygaid na gorffwys i'th amrannau; 5 achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr, neu aderyn o law yr adarwr. 6 Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn, a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth. 7 Er nad oes ganddo arweinydd na rheolwr na llywodraethwr, 8 y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf, yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf. 9 O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian? Pa bryd y codi o'th gwsg? 10 Ychydig gwsg, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i orffwys, 11 a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon, ac angen fel gu373?r arfog. 12 Un dieflig, un drwg, sy'n taenu geiriau dichellgar, 13 yn wincio �'i lygad, yn pwnio �'i droed, ac yn gwneud arwyddion �'i fysedd. 14 Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad, a chreu cynnen. 15 Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth; fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed. 16 Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD, saith peth sy'n ffiaidd ganddo: 17 llygaid balch, tafod ffals, dwylo'n tywallt gwaed dieuog, 18 calon yn cynllunio oferedd, traed yn prysuro i wneud drwg, 19 gau dyst yn dweud celwydd, ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau. 20 Fy mab, cadw orchymyn dy dad; paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam; 21 clyma hwy'n wastad yn dy galon, rhwym hwy am dy wddf. 22 Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei, a gwylio drosot pan orffwysi, ac ymddiddan � thi pan gyfodi. 23 Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni, a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd, 24 ac yn dy gadw rhag gwraig cymydog a rhag gweniaith y ddynes estron. 25 Paid � chwennych ei phrydferthwch, a phaid � gadael i'w chiledrychiad dy ddal; 26 oherwydd gellir cael putain am bris torth, ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach. 27 A all dyn gofleidio t�n yn ei fynwes heb losgi ei ddillad? 28 A all dyn gerdded ar farwor heb losgi ei draed? 29 Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog; ni all unrhyw un gyffwrdd � hi heb gosb. 30 Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyn i foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog? 31 Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n �l seithwaith, a rhoi'r cyfan sydd ganddo. 32 Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr, ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny; 33 caiff niwed ac amarch, ac ni ddil�ir ei warth. 34 Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gu373?r priod, ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial; 35 ni fyn dderbyn iawndal, ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.