Welsh

Proverbs

8

1 Onid yw doethineb yn galw, a deall yn codi ei lais? 2 Y mae'n sefyll ar y mannau uchel ar fin y ffordd, ac yn ymyl y croesffyrdd; 3 Y mae'n galw gerllaw'r pyrth sy'n arwain i'r dref, wrth y fynedfa at y pyrth: 4 "Arnoch chwi, bobl, yr wyf yn galw, ac atoch chwi, ddynolryw, y daw fy llais. 5 Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter, a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr. 6 Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr, a daw geiriau gonest o'm genau. 7 Traetha fy nhafod y gwir, ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau. 8 Y mae fy holl eiriau yn gywir; nid yw'r un ohonynt yn u373?yr na thraws. 9 Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus, ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth. 10 Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian, oherwydd gwell yw nag aur. 11 Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau, ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu � hi. 12 Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter, ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr. 13 Ofn yr ARGLWYDD yw cas�u drygioni; yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais, ffordd drygioni a geiriau traws. 14 Fy eiddo i yw cyngor a chraffter, a chennyf fi y mae deall a gallu. 15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn. 16 Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod, ac y barna penaethiaid yn gyfiawn. 17 Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i, ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael. 18 Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd, digonedd o olud a chyfiawnder. 19 Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth, a'm cynnyrch yn well nag arian pur. 20 Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder, ar ganol llwybrau barn, 21 a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm c�r, a llenwi eu trysordai. 22 "Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith, yn gyntaf o'i weithredoedd gynt. 23 Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell, yn y dechrau, cyn bod daear. 24 Ganwyd fi cyn bod dyfnderau, cyn bod ffynhonnau yn llawn du373?r. 25 Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd, cyn bod y bryniau, y ganwyd fi, 26 cyn iddo greu tir a meysydd, ac o flaen pridd y ddaear. 27 Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lle ac yn rhoi cylch dros y dyfnder, 28 pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchben ac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder, 29 pan oedd yn gosod terfyn i'r m�r, rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air, a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear. 30 Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson, yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad, 31 yn ymddifyrru yn y byd a greodd, ac yn ymhyfrydu mewn pobl. 32 "Yn awr, blant, gwrandewch arnaf; gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd. 33 Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth; peidiwch �'i anwybyddu. 34 Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf, sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws, ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhu375?. 35 Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd, ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD; 36 ond y mae'r un sy'n methu fy nghael yn ei ddinistrio'i hun, a phawb sy'n fy nghas�u yn caru marwolaeth."