Welsh

Proverbs

9

1 Y mae doethineb wedi adeiladu ei thu375?, ac yn naddu ei saith golofn; 2 y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwin a hulio ei bwrdd. 3 Anfonodd allan ei llancesau, ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw, 4 "Dewch yma, bob un sy'n wirion." Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr, 5 "Dewch, bwytewch gyda mi, ac yfwch y gwin a gymysgais. 6 Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw; rhodiwch yn ffordd deall." 7 Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr, a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus. 8 Paid � cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gas�u; cerydda'r doeth, ac fe'th g�r di. 9 Rho gyngor i'r doeth, ac fe �'n ddoethach; dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg. 10 Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb, ac adnabod y Sanctaidd yw deall. 11 Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau, ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd. 12 Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw; ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef. 13 Y mae gwraig ff�l yn benchwiban, yn ddiddeall, heb wybod dim. 14 Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thu375?, ar fainc yn uchelfannau'r ddinas, 15 yn galw ar y rhai sy'n mynd heibio ac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain: 16 "Dewch yma, bob un sy'n wirion." Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr, 17 "Y mae du373?r lladrad yn felys, a bara wedi ei ddwyn yn flasus." 18 Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno, ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.