1 1 C�n. Salm. I Ddafydd.0 Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw; fe ganaf, a rhoi mawl. Deffro, fy enaid. 2 Deffro di, nabl a thelyn. Fe ddeffroaf ar doriad gwawr. 3 Rhof ddiolch i ti, O ARGLWYDD, ymysg y bobloedd, a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd, 4 oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau. 5 Dyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear. 6 Er mwyn gwaredu dy anwyliaid, achub �'th ddeheulaw, ac ateb ni. 7 Llefarodd Duw yn ei gysegr, "Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem, a mesur dyffryn Succoth yn rhannau; 8 eiddof fi yw Gilead a Manasse; Effraim yw fy helm, a Jwda yw fy nheyrnwialen; 9 Moab yw fy nysgl ymolchi, ac at Edom y taflaf fy esgid; ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf." 10 Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog? Pwy a'm harwain i Edom? 11 Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod, a pheidio � mynd allan gyda'n byddinoedd? 12 Rho inni gymorth rhag y gelyn, oherwydd ofer yw ymwared dynol. 13 Gyda Duw fe wnawn wrhydri; ef fydd yn sathru ein gelynion.