Welsh

Psalms

109

1 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.0 O Dduw fy moliant, paid � thewi. 2 Oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn, a llefaru wrthyf � thafod celwyddog, 3 a'm hamgylchu � geiriau casineb, ac ymosod arnaf heb achos. 4 Am fy ngharedigrwydd y'm cyhuddant, a minnau'n gwedd�o drostynt. 5 Talasant imi ddrwg am dda, a chasineb am gariad. 6 Apwyntier un drwg yn ei erbyn, a chyhuddwr i sefyll ar ei dde. 7 Pan fernir ef, caffer ef yn euog, ac ystyrier ei weddi'n bechod. 8 Bydded ei ddyddiau'n ychydig, a chymered arall ei swydd; 9 bydded ei blant yn amddifad a'i wraig yn weddw. 10 Crwydred ei blant i gardota � wedi eu troi allan o'u hadfeilion. 11 Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo, a dyged estroniaid ei enillion. 12 Na fydded i neb drugarhau wrtho, na gwneud ffafr �'i blant amddifad. 13 Torrer ymaith ei linach, a'i henw wedi ei ddileu o fewn cenhedlaeth. 14 Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid gerbron yr ARGLWYDD, ac na ddileer pechodau ei fam. 15 Bydded hyn mewn cof gan yr ARGLWYDD yn wastad, a bydded iddo dorri ymaith eu coffa o'r tir. 16 Oherwydd ni chofiodd hwn fod yn ffyddlon, ond erlidiodd y gorthrymedig a'r tlawd, a'r drylliedig o galon hyd angau. 17 Carodd felltithio: doed melltith arno yntau. Ni hoffai fendithio; pell y bo bendith oddi wrtho yntau. 18 Gwisgodd felltith amdano fel dilledyn; suddodd i'w gnawd fel du373?r, ac fel olew i'w esgyrn. 19 Bydded fel y dillad a wisga, ac fel y gwregys sydd amdano bob amser. 20 Hyn fyddo t�l yr ARGLWYDD i'm cyhuddwyr, sy'n llefaru drygioni yn fy erbyn. 21 Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw, gweithreda drosof er mwyn dy enw; oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi. 22 Yr wyf yn druan a thlawd, a'm calon mewn gwewyr ynof. 23 Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd; fe'm gyrrir ymaith fel locust. 24 Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd, a'm corff yn denau o ddiffyg braster. 25 Deuthum yn gyff gwawd iddynt; pan welant fi, ysgydwant eu pennau. 26 Cynorthwya, fi, O ARGLWYDD fy Nuw, achub fi yn �l dy drugaredd, 27 a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw, mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth. 28 Pan f�nt hwy'n melltithio, bendithia di; cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen. 29 Gwisger fy nghyhuddwyr � gwarth; bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt. 30 Clodforaf fi yr ARGLWYDD �'m genau, a moliannaf ef yng ngu373?ydd cynulleidfa. 31 Oherwydd saif ef ar ddeheulaw'r tlawd, i'w achub rhag ei gyhuddwyr.