Welsh

Psalms

11

1 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd.0 Yn yr ARGLWYDD y cefais loches; sut y gallwch ddweud wrthyf, "Ffo fel aderyn i'r mynydd, 2 oherwydd y mae'r drygionus yn plygu'r bwa ac yn gosod eu saethau yn y llinyn i saethu yn y tywyllwch at yr uniawn"? 3 Os dinistrir y sylfeini, beth a wna'r cyfiawn? 4 Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd, a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd; y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw, a'i olygon yn ei phrofi. 5 Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus, a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais. 6 Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus; gwynt deifiol fydd eu rhan. 7 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn ac yn caru cyfiawnder, a'r uniawn sy'n gweld ei wyneb.