1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Seminith. Salm. I Ddafydd.0 Arbed, O ARGLWYDD; oherwydd nid oes un teyrngar ar �l, a darfu am y ffyddloniaid o blith pobl. 2 Y mae pob un yn dweud celwydd wrth ei gymydog, y maent yn gwenieithio wrth siarad �'i gilydd. 3 Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith bob gwefus wenieithus a'r tafod sy'n siarad yn ymffrostgar, 4 y rhai sy'n dweud, "Yn ein tafod y mae ein nerth; y mae ein gwefusau o'n tu; pwy sy'n feistr arnom?" 5 "Oherwydd anrhaith yr anghenus a chri'r tlawd, codaf yn awr," meddai'r ARGLWYDD, "rhoddaf iddo'r diogelwch yr hiraetha amdano." 6 Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur: arian wedi ei goethi mewn ffwrnais, aur wedi ei buro seithwaith. 7 Tithau, ARGLWYDD, cadw ni, gwared ni am byth oddi wrth y genhedlaeth hon, 8 am fod y drygionus yn prowla ar bob llaw, a llygredd yn uchaf ymysg pobl.