1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Am ba hyd, ARGLWYDD, yr anghofi fi'n llwyr? Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? 2 Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid, a gofid yn fy nghalon ddydd ar �l dydd? Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi? 3 Edrych arnaf ac ateb fi, O ARGLWYDD fy Nuw; goleua fy llygaid rhag imi gysgu hun marwolaeth, 4 rhag i'm gelyn ddweud, "Gorchfygais ef", ac i'm gwrthwynebwyr lawenhau pan gwympaf. 5 Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb, a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth; canaf i'r ARGLWYDD, am iddo fod mor hael wrthyf. 6 {cf2 (13:5)}