1 Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion. 2 Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear, yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio. 3 Bydd golud a chyfoeth yn ei du375?, a bydd ei gyfiawnder yn para am byth. 4 Fe lewyrcha goleuni mewn tywyllwch i'r uniawn; y mae'r cyfiawn yn raslon a thrugarog. 5 Da yw i bob un drugarhau a rhoi benthyg, a threfnu ei orchwylion yn onest; 6 oherwydd ni symudir ef o gwbl, a chofir y cyfiawn dros byth. 7 Nid yw'n ofni newyddion drwg; y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD. 8 Y mae ei galon yn ddi-sigl, ac nid ofna nes iddo weld diwedd ar ei elynion. 9 Y mae wedi rhoi'n hael i'r tlodion; y mae ei gyfiawnder yn para am byth, a'i gorn wedi ei ddyrchafu mewn anrhydedd. 10 Gw�l y drygionus hyn ac y mae'n ddig; ysgyrnyga'i ddannedd a diffygia; derfydd am obaith y drygionus.