Welsh

Psalms

113

1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch, chwi weision yr ARGLWYDD, molwch enw'r ARGLWYDD. 2 Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD o hyn allan a hyd byth. 3 O godiad haul hyd ei fachlud bydded enw'r ARGLWYDD yn foliannus. 4 Uchel yw'r ARGLWYDD goruwch yr holl genhedloedd, a'i ogoniant goruwch y nefoedd. 5 Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein Duw yn y nefoedd neu ar y ddaear, 6 yn gosod ei orseddfainc yn uchel a hefyd yn ymostwng i edrych yn isel? 7 Y mae ef yn codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen, 8 i'w gosod gyda phendefigion, gyda phendefigion ei bobl. 9 Rhydd deulu i'r wraig ddi-blant; daw hi'n fam lawen i blant. Molwch yr ARGLWYDD.