1 Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i'th enw dy hun, rho ogoniant, er mwyn dy gariad a'th ffyddlondeb. 2 Pam y mae'r cenhedloedd yn dweud, "Ple mae eu Duw?" 3 Y mae ein Duw ni yn y nefoedd; fe wna beth bynnag a ddymuna. 4 Arian ac aur yw eu delwau hwy, ac wedi eu gwneud � dwylo dynol. 5 Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld; 6 y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, a ffroenau nad ydynt yn arogli; 7 y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo, a thraed nad ydynt yn cerdded; ac ni ddaw su373?n o'u gyddfau. 8 Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt, ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt. 9 O Israel, ymddirieda yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian. 10 O du375? Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian. 11 Chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian. 12 Y mae'r ARGLWYDD yn ein cofio ac yn ein bendithio; fe fendithia du375? Israel, fe fendithia du375? Aaron, 13 fe fendithia'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD, y bychan a'r mawr fel ei gilydd. 14 Bydded yr ARGLWYDD yn eich amlhau, chwi a'ch plant hefyd. 15 Bydded ichwi gael bendith gan yr ARGLWYDD a wnaeth nefoedd a daear. 16 Y nefoedd, eiddo'r ARGLWYDD yw, ond fe roes y ddaear i ddynolryw. 17 Nid yw'r meirw yn moliannu'r ARGLWYDD, na'r holl rai sy'n mynd i lawr i dawelwch. 18 Ond yr ydym ni'n bendithio'r ARGLWYDD yn awr a hyd byth. Molwch yr ARGLWYDD.