Welsh

Psalms

116

1 Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrando ar lef fy ngweddi, 2 am iddo droi ei glust ataf y dydd y gwaeddais arno. 3 Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf, a gefynnau Sheol wedi fy nal, a minnau'n dioddef adfyd ac ing. 4 Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD: "Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi." 5 Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn, ac y mae ein Duw ni'n tosturio. 6 Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml; pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd. 7 Gorffwysa unwaith eto, fy enaid, oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt; 8 oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau, fy llygaid rhag dagrau, fy nhraed rhag baglu. 9 Rhodiaf gerbron yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw. 10 Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi fy narostwng; cefais fy nghystuddio'n drwm; 11 yn fy nghyni dywedais, "Y mae pawb yn dwyllodrus." 12 Sut y gallaf dalu i'r ARGLWYDD am ei holl haelioni tuag ataf? 13 Dyrchafaf gwpan iachawdwriaeth, a galw ar enw'r ARGLWYDD. 14 Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD ym mhresenoldeb ei holl bobl. 15 Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD yw marwolaeth ei ffyddloniaid. 16 O ARGLWYDD, dy was yn wir wyf fi, gwas o hil gweision; yr wyt wedi datod fy rhwymau. 17 Rhof i ti offrwm diolch, a galw ar enw'r ARGLWYDD. 18 Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD ym mhresenoldeb ei holl bobl, 19 yng nghynteddau tu375?'r ARGLWYDD yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.