1 1 C�n Esgyniad.0 C�n Esgyniad. Gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi. 2 "O ARGLWYDD, gwared fi rhag genau twyllodrus, a rhag tafod enllibus." 3 Beth a roddir i ti, a beth yn ychwaneg a wneir, O dafod enllibus? 4 Saethau llymion rhyfelwr, a marwor eirias! 5 Gwae fi fy mod yn ymdeithio yn Mesech, ac yn byw ymysg pebyll Cedar. 6 Yn rhy hir y b�m yn byw gyda'r rhai sy'n cas�u heddwch. 7 Yr wyf fi am heddwch, ond pan soniaf am hynny, y maent hwy am ryfel.