1 1 C�n Esgyniad.0 Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi? 2 Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear. 3 Nid yw'n gadael i'th droed lithro, ac nid yw dy geidwad yn cysgu. 4 Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno. 5 Yr ARGLWYDD yw dy geidwad, yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw; 6 ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd, na'r lleuad yn y nos. 7 Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg, bydd yn cadw dy einioes. 8 Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddod yn awr a hyd byth.