Welsh

Psalms

141

1 1 Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, gwaeddaf arnat, brysia ataf; gwrando ar fy llef pan alwaf arnat. 2 Bydded fy ngweddi fel arogldarth o'th flaen, ac estyniad fy nwylo fel offrwm hwyrol. 3 O ARGLWYDD, gosod warchod ar fy ngenau, gwylia dros ddrws fy ngwefusau. 4 Paid � throi fy nghalon at bethau drwg, i fod yn brysur wrth weithredoedd drygionus gyda rhai sy'n wneuthurwyr drygioni; paid � gadael imi fwyta o'u danteithion. 5 Bydded i'r cyfiawn fy nharo mewn cariad a'm ceryddu, ond na fydded i olew'r drygionus eneinio fy mhen, oherwydd y mae fy ngweddi yn wastad yn erbyn eu drygioni. 6 Pan fwrir eu barnwyr yn erbyn craig, byddant yn gwybod mor ddymunol oedd fy ngeiriau. 7 Fel darnau o bren neu o graig ar y llawr, bydd eu hesgyrn wedi eu gwasgaru yng ngenau Sheol. 8 Y mae fy llygaid arnat ti, O ARGLWYDD Dduw; ynot ti y llochesaf; paid �'m gadael heb amddiffyn. 9 Cadw fi o'r rhwyd a osodwyd imi, ac o fagl y gwneuthurwyr drygioni. 10 Bydded i'r drygionus syrthio i'w rhwydau eu hunain, a myfi fy hun yn mynd heibio.