1 1 Masc�l. I Ddafydd, pan oedd yn yr ogof. Gweddi.0 Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD, ymbiliaf yn uchel ar yr ARGLWYDD. 2 Arllwysaf fy nghwyn o'i flaen, a mynegaf fy nghyfyngder yn ei bresenoldeb. 3 Pan yw fy ysbryd yn pallu, yr wyt ti'n gwybod fy llwybr. Ar y llwybr a gerddaf y maent wedi cuddio magl. 4 Edrychaf i'r dde, a gweld nad oes neb yn gyfaill imi; nid oes dihangfa imi, na neb yn malio amdanaf. 5 Gwaeddais arnat ti, O ARGLWYDD; dywedais, "Ti yw fy noddfa, a'm rhan yn nhir y rhai byw." 6 Gwrando ar fy nghri, oherwydd fe'm darostyngwyd yn isel; gwared fi oddi wrth fy erlidwyr, oherwydd y maent yn gryfach na mi. 7 Dwg fi allan o'm caethiwed, er mwyn imi glodfori dy enw. Bydd y rhai cyfiawn yn tyrru ataf pan fyddi di yn dda wrthyf.