1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd, molwch ef yn yr uchelderau. 2 Molwch ef, ei holl angylion; molwch ef, ei holl luoedd. 3 Molwch ef, haul a lleuad; molwch ef, yr holl s�r disglair. 4 Molwch ef, nef y nefoedd, a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd. 5 Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD, oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy; 6 fe'u gwnaeth yn sicr fyth bythoedd; rhoes iddynt ddeddf nas torrir. 7 Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear, chwi ddreigiau a'r holl ddyfnderau, 8 t�n a chenllysg, eira a mwg, y gwynt stormus sy'n ufudd i'w air; 9 y mynyddoedd a'r holl fryniau, y coed ffrwythau a'r holl gedrwydd; 10 anifeiliaid gwyllt a'r holl rai dof, ymlusgiaid ac adar hedegog; 11 brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd, tywysogion a holl farnwyr y ddaear; 12 gwu375?r ifainc a gwyryfon, hynafgwyr a llanciau hefyd. 13 Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD, oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig, ac y mae ei ogoniant ef uwchlaw daear a nefoedd. 14 Y mae wedi dyrchafu corn ei bobl, ac ef yw moliant ei holl ffyddloniaid, pobl Israel, sy'n agos ato. Molwch yr ARGLWYDD.