1 Molwch yr ARGLWYDD. Canwch i'r ARGLWYDD g�n newydd, ei foliant yng nghynulleidfa'r ffyddloniaid. 2 Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr, ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin. 3 Molwch ei enw � dawns, canwch fawl iddo � thympan a thelyn. 4 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl; y mae'n rhoi gwaredigaeth yn goron i'r gostyngedig. 5 Bydded i'r ffyddloniaid orfoleddu mewn gogoniant, a llawenhau ar eu clustogau. 6 Bydded uchel-foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu llaw 7 i weithredu dial ar y cenhedloedd a cherydd ar y bobloedd; 8 i rwymo eu brenhinoedd mewn cadwynau, a'u pendefigion � gefynnau haearn; 9 i weithredu'r farn a nodwyd ar eu cyfer. Ef yw gogoniant ei holl ffyddloniaid. Molwch yr ARGLWYDD.